Dewislen

Asesydd Lefel 3 Cam wrth Gam

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 05 Ionawr 2026
Cyflog: £26,269 i £29,610 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 18 Ionawr 2026
Lleoliad: De Ddwyrain Cymru
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

dych chi’n aseswr cymwys sy’n angerddol dros hyfforddi a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydym yn chwilio am aseswr profiadol a chymhellol i gyflwyno hyfforddiant o safon uchel ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol a Fframwaith Prentisiaethau (lle bo’n berthnasol).

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.

Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Prif Swyddog Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant o fewn amser penodedig
• Dylai’r aseswyr fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal.
• Mae’n gyfrifoldeb ar yr aseswyr i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
• Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
• Cynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr ac arweinydd/athro/ rheolwr y lleoliad
• Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith.
• Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad.
• Defnyddio dulliau asesu dilys, teg dibynadwy a diogel.
• Nodi a chasglu tystiolaeth sy'n ddilys, cywir a digonol.
• Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol.
4.2024
• Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin (os yn berthnasol), wrth ymweld ag o bell.
• Sicrhau bod gwaith portffolio pob ymgeisydd yn cael ei gwblhau yn brydlon
• Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol.
• Cynnal cofnodion gofynnol o’r broses asesu, ei ddeilliannau a chynnydd y dysgwr.
• Gweithio gydag eraill i sicrhau y safonir arfer a deilliannau eraill.
• Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
• Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
• Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
• Mynychu 2 weithdy'r mis yn ystod y chwe mis cyntaf o’r cwrs
• Cyflwyno yn y gweithdai yn ôl yr angen.
• Paratoi’r dysgwr ar gyfer y prawf aml-ddewis
• Cwblhau dogfennau sy’n berthnasol i’r Fframwaith Brentisiaethau yn fisol yn unol ag ymrwymiad cytundeb Cynllun Prentisiaethau Mudiad Meithrin (os yn berthnasol)
• Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
• Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
• Cynorthwyo yn ôl yr angen i recriwtio dysgwyr mewn ardal benodedig.
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon