Asesydd dan Hyfforddiant Cam Wrth Gam
| Posting date: | 05 January 2026 |
|---|---|
| Salary: | £25,585 per year, pro rata |
| Hours: | Part time |
| Closing date: | 18 January 2026 |
| Location: | De Ddwyrain Cymru |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 2 days per week |
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: |
Summary
Rydym yn chwilio am berson cymhellol a phroffesiynol i hyfforddi fel aseswr, gan gyflwyno hyfforddiant o safon uchel ac asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol a gofynion y Cyrff Dyfarnu (CBAC / City & Guilds). Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddefnyddio ystod eang o ddulliau asesu i gefnogi a mesur cynnydd dysgwyr yn effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Prif Swyddog Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau: o (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet o unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o
dystiolaeth briodol
• Cyflwyno’r cymhwyster Diploma Lefel 2/3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP) o fewn amser penodedig
• Dylai’r asesydd o dan hyfforddiant fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal o dan arweiniad y mentor.
• Mae’n gyfrifoldeb ar yr asesydd o dan hyfforddiant i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
• Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith, o dan arweiniad y mentor.
• Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith, wrth ymweld ac o bell, o dan arweiniad y mentor.
• Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.
• Gosod gwaith y dysgwyr ar system electroneg Valid-8.
• Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar bob penderfyniad asesu.
• Cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 Craidd mewn GChDDP
• Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.
• Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.
• Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.
• Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Paratoi adnoddau mewn cydweithrediad ag eraill yn ôl yr angen.
• Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth.
Proud member of the Disability Confident employer scheme