Menu

Rheolwr Rhaglen Ar Gyfer trawsnewid

Job details
Posting date: 18 December 2025
Salary: £42,839 to £44,075 per year
Hours: Full time
Closing date: 15 January 2026
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Contract
Job reference: 505724

Apply for this job

Summary

Ymgeisiwch erbyn: 15fed Ionawr 2026, ganol dydd
Disgwylir llunio’r rhestr fer: 19eg o Ionawr 2026
Disgwylir cynnal cyfweliadau: 26ain o Ionawr 2026

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig dwy swydd contract cyfnod
penodol ar gyfer Rheolwyr Rhaglen Trawsnewid. Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr
Newid Strategol a Thrawsnewid, bydd y rolau hyn yn cefnogi ac yn ysgogi newid
a gwelliant strategol o fewn y gwasanaeth. Lleolir y swyddi ym Mhencadlys y
Gwasanaeth yn Llantrisant, gyda pheth hyblygrwydd ar gyfer gweithio o bell, ac
mae angen arweiniad gweladwy ar draws y gwasanaeth.
Bydd y Rheolwyr Rhaglen Trawsnewid yn helpu i ddatblygu a llunio swyddogaeth
rheoli portffolio newydd a byddant yn gweithio gyda rheolwyr rhaglen eraill,
swyddogion gweithredol prosiectau, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod
blaenoriaethau a gwelliannau allweddol yn cael eu cyflawni. Byddant yn chwarae
rhan allweddol yn y gwaith o oruchwylio camau gweithredu, llywodraethu, a
gweithredu'r argymhellion o Adroddiad yr Adolygiad Diwylliant, yn ogystal â'r
gweithgareddau a amlinellir yng Nghylch Gorchwyl y Comisiynwyr.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cefnogi datblygiad swyddfa rheoli
portffolio, a rheoli rhaglenni gwella allweddol, arwain cyfarfodydd llywodraethu ar
gyfer trosolwg cadarn o gynlluniau, a chydweithio ag adrannau a rhanddeiliaid ar
draws y gwasanaeth. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o reoli newid, yn enwedig
mewn prosiectau cymhleth sy'n cynnwys newidiadau prosesau, pobl
a thechnoleg. Mae angen PRINCE2 neu gymhwyster rheoli prosiect cyfatebol,
neu brofiad cyflawni prosiect cyfatebol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn arweinydd brwdfrydig a chadarnhaol, yn gallu
ymgysylltu ac ysbrydoli staff ar draws y gwasanaeth. Rhaid iddynt fod yn
rhagweithiol, yn annibynnol, yn hyblyg, ac wedi ymrwymo i ddatblygiad personol
a thîm. Mae dull trawsnewidiol ac aliniad â Chod Moeseg Craidd CCPT yn
hanfodol.

• Contract: Cytundeb 2 Flynedd Cyfnod Penodol
• Gradd: 13
• Cyflog: £42,839 - £44,075
• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Newid a Thrawsnewid Strategol
• Cyfeirnod Swydd: 505724
• Lleoliad: Pencadlys, Llantrisant

Apply for this job