Rheolwr Rhaglen Drawsnewid
| Posting date: | 18 March 2026 |
|---|---|
| Salary: | £42,839 to £44,075 per year |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 15 April 2026 |
| Location: | CF72 8LX |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
| Job type: | Contract |
| Job reference: | 505724 |
Summary
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig dwy swydd contract tymor penodol
ar gyfer Rheolwyr Rhaglenni Trawsnewid. Gan adrodd i Reolwr y Swyddfa Rheoli
Portffolio (SRhP), bydd y rolau hyn yn cefnogi ac yn gyrru newid a gwelliant strategol o
fewn y gwasanaeth. Lleolir y swyddi ym Mhencadlys y Gwasanaeth yn Llantrisant, gyda
rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer gweithio o bell, ac maent yn gofyn am arweinyddiaeth
weladwy ar draws y gwasanaeth.
Bydd y Rheolwyr Rhaglenni Trawsnewid yn helpu i ddatblygu a llunio swyddogaeth rheoli
portffolio newydd a byddant yn gweithio gyda rheolwyr rhaglenni eraill, swyddogion
gweithredol prosiectau, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod blaenoriaethau a gwelliannau
allweddol yn cael eu cyflawni. Byddant yn chwarae rhan allweddol wrth oruchwylio
camau gweithredu a llywodraethu.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cefnogi'r Rheolwr SRhP gyda'r swyddfa rheoli
portffolio, yn ogystal â rheoli rhaglenni gwella allweddol, arwain cyfarfodydd llywodraethu
ar gyfer goruchwyliaeth gadarn o gynlluniau, a chydweithio ag adrannau a rhanddeiliaid
ar draws y gwasanaeth. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o reoli newid, yn enwedig mewn
prosiectau cymhleth sy'n cynnwys newidiadau proses, pobl a thechnoleg. Mae angen
cymhwyster rheoli prosiectau PRINCE2/APM/AgilePM neu gymhwyster cyfatebol, neu
brofiad cyfatebol o gyflwyno prosiectau.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn arweinydd brwdfrydig a chadarnhaol, yn gallu ymgysylltu
â staff a'u hysbrydoli ar draws y gwasanaeth. Rhaid iddynt fod yn rhagweithiol, yn
annibynnol, yn hyblyg, ac wedi ymrwymo i ddatblygiad personol a thîm.