Community Support Worker
| Dyddiad hysbysebu: | 04 Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 18 Rhagfyr 2025 |
| Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Conwy County Borough Council |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | REQ006924 |
Crynodeb
Working in the Care Sector of Conwy Council, we can offer you more than just a care job. We can provide you with the opportunity to have a meaningful, purposeful job supported by a friendly team who will help you reach your full potential.
Support workers have a massive impact on the lives of the people they support. You can help us to make a difference to the lives of older people here and now. We support people across Conwy to live as independently as possible in their own home, community, daily life skills, appointments, supporting them to regain and maintain skills that allow them to be part of their community. That means listening to them, understanding what they like, and supporting them to make decisions and achieve the things they want to achieve.
If you share these values, we want to hear from you!
• Helping people to live the life they want to lead.
• Building relationships based on trust, and a genuine interest in other people.
• Helping others to feel good.
• Helping people to develop their skills
• You are good at motivating others
• You are respectful towards others
• You have a great sense of humour
• You don't panic and you stay calm in difficult situations
Our residents are individuals and deserve to be treated as such. You don't need any experience to apply as you will receive a full induction to get you started and we offer a range of benefits which include:
• A two week rolling rota
• Good rates of pay and enhanced rates for evening and weekend work
• FREE training and qualification courses
• Ability to progress into a number of other care roles within Health and Social Care.
We welcome non-Welsh speakers, Learners as well as fluent Welsh speakers to apply. A good standard of spoken English is required to communicate with individuals.
DBS checks will be required for these positions
Ydych chi eisiau gyrfa fuddiol a gwneud gwahaniaeth i bobl ddiamddiffyn yn eich ardal leol?
Os byddwch yn gweithio yn Sector Gofal Cyngor Conwy, gallwn gynnig mwy na dim ond swydd ofalu i chi. Bydd gennych y cyfle i gael gyrfa ystyrlon, bwrpasol, gyda chefnogaeth gan dîm cyfeillgar a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Mae Gweithwyr Cymorth yn cael effaith anferth ar fywydau’r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn rŵan hyn. Rydym yn cefnogi pobl ar draws Conwy i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned, gan helpu gyda sgiliau bywyd, apwyntiadau a’u cefnogi i adennill a chynnal sgiliau sy’n eu galluogi i fod yn rhan o’u cymuned. Mae hynny’n golygu gwrando arnynt, deall beth maent yn eu hoffi, a’u cefnogi i wneud penderfyniadau a chyflawni beth maent am eu cyflawni.
Os ydych yn rhannu’r gwerthoedd hyn rydym am glywed gennych!
• Helpu pobl i fyw’r bywyd maent am ei fyw.
• Meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.
• Helpu eraill i deimlo’n dda.
• Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau
• Rydych yn dda am ysgogi pobl eraill
• Rydych yn barchus tuag at bobl eraill
• Mae gennych synnwyr digrifwch gwych
• Nid ydych yn mynd i banig ac rydych yn bwyllog mewn sefyllfaoedd anodd
Mae ein preswylwyr yn unigolion ac yn haeddu cael eu trin felly. Does dim angen profiad i wneud cais gan y byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu lawn ac rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau sy’n cynnwys:
• Rota dreigl pythefnos o hyd
• Cyfraddau cyflog da a chyfraddau gwell ar gyfer gweithio fin nos ac ar benwythnosau
• Hyfforddiant a chyrsiau cymwysterau AM DDIM
• Gallu symud ymlaen i nifer o swyddi gofal eraill o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl, Dysgwyr, a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae angen safon dda o Saesneg llafar er mwyn cyfathrebu gydag unigolion.
Bydd angen gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swyddi hyn.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd