Dewislen

Swyddog Profiad Myfyrwyr

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 28 Tachwedd 2025
Cyflog: £30,805 i £37,174 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 05 Rhagfyr 2025
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03894)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr: Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr

Swyddog Profiad Myfyrwyr

(Cyf: BU03894)

Graddfa: 6 £30,805-£37,174 y.f.

Mae tîm Profiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn awyddus i benodi unigolyn sydd â chymwysterau addas ac sy’n hynod frwdfrydig er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel ar draws y Brifysgol. Swydd barhaol, lawn amser yw hon. 36.25 awr yw’r wythnos waith safonol, yn bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda gwaith achlysurol gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau myfyrwyr, rheoli a chynnal cofnodion, systemau a chronfeydd data a chydlynu a chefnogi'r gwaith o gyflawni tasgau gweithredol i wella profiad y myfyrwyr.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel cymhwyster Uwch Gyfrannol / Safon Uwch (NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth) mewn pwnc perthnasol ac mae gallu cynllunio gweithgareddau sy'n cyflawni'r canlyniadau gofynnol o fewn terfynau amser penodol ac o fewn y gyllideb yn hanfodol.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Ash James, Rheolwr Profiad Myfyrwyr a.james@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon