Business & MIS Support Officer
| Dyddiad hysbysebu: | 26 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 11 Rhagfyr 2025 |
| Lleoliad: | Conwy County, Wales |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Conwy County Borough Council |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | REQ006908 |
Crynodeb
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl Swyddog Busnes a’r Adain Gwybodaeth Rheoli o fewn yr adran Gofal Cymdeithasol ac Addysg.
Byddwch yn gweithio gydag ysgolion Conwy yn unol â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth a thîm yr Adain Gwybodaeth Rheoli i reoli a mewnbynnu data ysgolion, a byddwch yn cysylltu â swyddogion addysg ac ysgolion yn ddyddiol i sicrhau fod safon y data’n cael ei chynnal a bod adroddiadau data cywir yn cael eu cynhyrchu.
Byddwch yn gyfrifol am ddiweddaru systemau Adain Gwybodaeth Rheoli ysgolion yn rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys ychwanegu dysgwyr newydd i’r system a diweddaru gwybodaeth bresennol yn unol â gofynion yr ysgol.
Byddwn yn darparu’r hyfforddiant perthnasol i chi ac yn eich cefnogi i gyflawni’r rôl hon yn hyderus. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, byddwch angen lefel uchel o uniondeb, gwytnwch personol, yn gallu cadw eich pwyll o dan bwysau a rhoi sylw i fanylion.
Yn olaf, bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr da gyda sgiliau Microsoft Office cadarn, a brwdfrydedd go iawn am ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Mae’r gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Saesneg yn hanfodol, ac mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Andrew Nixon Rheolwr Adain - Cymorth Busnes a Gweinyddu 01492 575587 andrew.nixon1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
Applications are invited for the post of Business and MIS officer within the Social Care and Education department.
You will work with Conwy schools in line with the Service Level Agreement held with the MIS team in managing and inputting schools’ data. You will have daily contact with school and education officers in ensuring the quality of data is maintained and accurate data reports are produced.
You will be responsible for keeping the school MIS systems up to date. This will involve both adding new learners to the system and updating existing information in line with school requests.
We will provide you with relevant training and support to confidently undertake the role. To be considered for this role you will need to have a high level of integrity, personal resilience, be calm under pressure and pay close attention to detail.
Finally, you will need to be a great communicator with strong Microsoft Office skills, with a real passion for delivering excellent customer service.
The ability to communicate confidently, both oral and written, in English is essential and the ability to communicate in Welsh is desirable for this post.
Manager details for informal discussion: Andrew Nixon Section Manager – Business & Administrative Support 01492 575587 andrew.nixon1@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd