Call Response & Support Officer
| Dyddiad hysbysebu: | 13 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 27 Tachwedd 2025 |
| Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Conwy County Borough Council |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | REQ006835 |
Crynodeb
Ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Mae Galw Gofal yn wasanaeth dwyieithog sy’n monitro galwadau 24/7 ac yn cefnogi pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn, drwy Teleofal, gan eu helpu i fyw’n annibynnol. Rydym hefyd yn ymdrin â galwadau tu allan i oriau ar gyfer ystod eang o wasanaethau, yn cynnwys atgyweiriadau tai, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, digartrefedd, a digwyddiadau brys, ar ran cynghorau, cymdeithasau tai, a busnesau preifat.
Fel rhan o’n tîm sy’n prysur dyfu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i alwadau sy’n amrywio o ymholiadau cyffredinol i sefyllfaoedd difrifol megis argyfyngau meddygol, codymau a thanau mewn tai. Byddwch yn cefnogi gwasanaethau sydd wir yn bwysig.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunan-gymhelliant i ymuno â’n tîm o Swyddogion Ymateb i Alwadau a Chefnogi. Os ydych chi’n unigolyn sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau cael effaith ystyrlon, efallai mai dyma’r swydd i chi.
Beth rydym ni’n ei gynnig:
Pecyn buddion hael yn cynnwys:
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Tâl Salwch Galwedigaethol
Cynlluniau aberthu cyflog (ceir, Beicio i'r Gwaith)
Arian yn ôl ar ofal iechyd
Disgownt i staff
Cyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid ar ôl cyfnod prawf o 6 mis
Hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus
Beth fydd ei angen arnoch:
Agwedd bositif a sgiliau cyfathrebu rhagorol
Safon dda o addysg a sgiliau TG
Hyder yn defnyddio eich menter eich hun
Lefelau uchel o onestrwydd a chyfrinachedd oherwydd natur sensitif y gwaith
Gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad yn unol â safonau BS7858.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ar 01492 575240
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick McCavish Rheolwr Strategol Rhanbarthol (nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
Looking for a Role That Makes a Real Difference?
Galw Gofal is a bilingual, 24/7 call monitoring service that supports older and vulnerable people through Telecare, helping them live independently. We also provide out-of-hours call handling for a wide range of services, including housing repairs, social services, highways, homelessness, and emergency events, on behalf of councils, housing associations, and private businesses.
As part of our growing team, you’ll play a vital role in responding to calls that range from general enquiries to life-critical situations such as medical emergencies, falls, and house fires. You’ll be supporting services that truly matter.
We’re looking for a self-motivated individual to join our team of Call Response & Support Officers. If you’re someone who thrives in a fast-paced environment and wants to make a meaningful impact, this could be the role for you.
What We Offer:
A generous rewards package including:
Local Government Pension Scheme
Occupational Sick Pay
Salary sacrifice schemes (cars, Cycle to Work)
Cashback healthcare
Staff discounts
Opportunities for hybrid working after a 6-month probation period
Full training and ongoing support
What You’ll Need:
A positive attitude and excellent communication skills
A good standard of education and IT skills
Confidence using your own initiative
High levels of integrity and confidentiality due to the sensitive nature of the work
The ability to communicate fluently in both English and Welsh
Conwy is committed to safeguarding. All qualifications and references will be verified, and the successful applicant will be subject to vetting in line with BS7858 standards.
For an informal chat about the role, contact Nick McCavish, Regional Strategic Manager on 01492 575240.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Nick McCavish, Regional Strategic Manager (nick.mccavish@conwy.gov.uk / 01492 575240)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd