Menu
Warning This job advert has expired and applications have closed.

RHEOLWR CYFATHREBIADAU AC YMGYSYLLTU - (PARHAOL)

Job details
Posting date: 18 November 2025
Salary: £42,839 to £44,075 per year
Additional salary information: plus on-call allowance
Hours: Full time
Closing date: 08 December 2025
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Summary

Ymgeisiwch erbyn: Hanner dydd 8fed Rhagfyr 2025

Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: yr wythnos sy'n dechrau 8fed Rhagfyr 2025

Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal: yr wythnos sy'n dechrau 15fed Rhagfyr 2025

Ymunwch â ni fel ein Rheolwr Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu nesaf

A ydych chi'n adroddwr straeon naturiol sydd â brwdfrydedd dros bobl, pwrpas ac effaith? Ydych chi'n ffynnu ar greu naratif â chymhelliant, arwain gyda thosturi, ac ysbrydoli eraill i gysylltu â chenhadaeth a rennir? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Rydym yn chwilio am Reolwr Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu i ymuno â'n tîm talentog o bobl greadigol, awduron ac arbenigwyr digidol. Byddwch wrth wraidd llunio sut rydym yn cyfathrebu - yn fewnol ac yn allanol - gan sicrhau bod ein llais yn glir, yn gyson ac yn cyd-fynd â'n gwerthoedd o dosturi, dewrder, parch, uniondeb a rhagoriaeth.

Nid rôl gyfathrebu yn unig yw hon. Mae e'n gyfle i arwain gydag empathi, gyrru arloesedd, a dod â'n blaenoriaethau strategol yn fyw trwy adrodd straeon pwerus, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgyrchoedd cynhwysol. Byddwch yn cefnogi uwch arweinwyr, yn rheoli cysylltiadau cyfryngau proffil uchel, ac yn rhan allweddol o'r trawsnewidiad digidol ar draws ein sianeli.

Bydd angen i chi fod yn awdur hyderus gyda chreadigrwydd, yn feddyliwr strategol ac yn arweinydd tactegol gydag ysbryd cydweithredol, ac yn rheolwr teg a moesegol sy'n dod â'r gorau allan mewn eraill.

Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth ystyrlon a'n helpu ni i amddiffyn De Cymru heddiw yn ogystal â bod yn uchelgeisiol ar gyfer yfory, rydym eisiau glywed gennych chi.

Contract: Parhaol
Gradd: 13
Cyflog: £42,839 - £44,075
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyfarwyddiaeth: Newid Strategol a Thrawsnewid
Cyfeiriad Swydd: NU193
Lleoliad: Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant