Menu

Rheolwr Cynllun Ymyrraeth Diogelwch Tân (YDT)

Job details
Posting date: 13 November 2025
Salary: £37,280 to £38,220 per year
Hours: Full time
Closing date: 03 December 2025
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 03.12.2025 am hanner dydd.

Mae'r swydd wag barhaol uchod wedi codi o fewn tîm Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau a leolir ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Llantrisant.
Nod Cynllun Ymyrraeth Diogelwch Tân (CYD) yw lleihau Cynnau Tanau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy ymyriadau wedi'u teilwra’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hwn yn gyfle i wneud effaith ystyrlon ar ddiogelwch cymunedol wrth lunio dyfodol gwaith ymyrraeth ar draws y Gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain a datblygu'r Cynllun Ymyrraeth Diogelwch Tân. Bydd eich rôl yn cynnwys rheoli ymyriadau cymhleth, blaenoriaethu atgyfeiriadau, a chynnig cyngor ar achosion diogelu risg uchel, sy'n cynnwys unigolion agored i niwed yn aml. Yn ogystal â'ch cyfrifoldebau mewnol, byddwch yn cynrychioli GTADC ar lefel genedlaethol trwy gymryd rhan weithredol ym mhwyllgorau, is-grwpiau, gweithgorau a chynadleddau Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (CCPT) i hyrwyddo gwaith y Gwasanaeth a rhannu arfer gorau.
Mae'r rôl yn cynnwys teithio'n aml rhwng safleoedd ledled ardal De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio gyda'r nos a phenwythnosau o bryd i'w gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, mae croeso i chi gysylltu â Gavin Murphy drwy e-bost: g2-murphy@decymtu -tan.gov.uk.

• Cytundeb: Barhaol
• Gradd: 10
• Cyflog: £37,280 - £38,220 am flwyddyn
• Oriau Gwaith: 37 yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau
• Cyfeirnod Swydd: 506185
• Lleoliad: De Cymru Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub

Apply for this job