CYNORTHWYYDD CYMORTH DYSGU CYMRAEG
| Dyddiad hysbysebu: | 12 Tachwedd 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £26,824 i £28,598 bob blwyddyn |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 12 Rhagfyr 2025 |
| Lleoliad: | Ysgol Gwaun y Nant |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Vale of Glamorgan Council |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | LS00422 |
Crynodeb
Mae Bro Morgannwg yn dymuno penodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Cymraeg i weithio yng Nghanolfan yr Iaith Gymraeg yn Ysgol Gwaun y Nant yn y Barri a phan fo angen, yn peripatetaidd ledled Bro Morgannwg i ymuno â’n tîm presennol.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o'r tîm trochi a sefydlwyd yn Ysgol Gwaun y Nant. Bydd y swydd hon yn gweithio o dan arweiniad yr Athro Trochi Cymraeg i ddarparu model teithiol o ddarpariaeth trochi Cymraeg ym Mro Morgannwg yn effeithiol.
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Manylion y Swydd
Manylion Taliad: Gradd 5 (£26,824 to £28,598) - (Swydd barhaol)
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 30 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Prif Fan Gwaith: Ysgol Gwaun y Nant, Y Barri
Disgrifiad: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr sy'n hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, neu'r rhai sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac sydd angen cymorth ychwanegol wedi'i dargedu gyda chaffael iaith.
Mae'r rôl hon yn rhan annatod o gyflawni'r canlyniadau yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bro Morgannwg (CSGA) a bydd yn cyfrannu at yr ymrwymiadau a amlinellir yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Amdanoch chi
Rhugl yn y Gymraeg
Profiad o weithio yn cefnogi phlant a grwpiau o blant
Profiad o weithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda phlant, rhieni a chydweithwyr
Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant
Personoliaeth amyneddgar a hyblyg
Person brwdfrydig a hunanysgogol gyda’r gallu i weithio’n annibynnol
Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion
Person sy’n gosod disgwyliadau uchel
Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd
Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
Parodrwydd i ddysgu’n barhaus
Gwybodaeth ychwanegol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach 'Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd'
Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Lowri Delve - delvel3@hwbcymru.net
Gwelir y disgrifiad swydd a manyleb personol am fwy o fanylion.
Os gwelwch yn dda gweld y disgrifiad swydd / manyleb person a at odiadau am ragor o wybodaeth.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd