Dewislen

Gym Instructor

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Hydref 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 22 Hydref 2025
Lleoliad: Conwy, Conwy County
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ006829

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Canolfan Chwaraeon Creuddyn

Ymunwch â’n Tîm Hyfforddwyr Campfa yn Ffit Conwy!


Ydych chi’n angerddol am helpu pobl a darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog? Ydych chi’n ffynnu mewn amgylchedd prysur, a bod yn rhan o dîm? Os felly, hoffwn eich croesawu i Ganolfan Gyswllt Ffit Conwy.

Mae Ffit Conwy wedi gwneud newidiadau cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys buddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau hamdden, offer ffitrwydd a thechnoleg. Un o’r rhain yw’r gampfa newydd yng Nghanolfan Hamdden Creuddyn. Mae gennym ni gynlluniau ar gyfer buddsoddiad pellach ar draws Conwy, felly dyma amser gwych i ddod yn aelod o Dîm Ffit Conwy.

Fel Hyfforddwr Campfa, byddwch yn wyneb cyfeillgar o fewn ein campfa, yn cefnogi cwsmeriaid gyda chyflwyniadau, rhaglenni ac adolygiadau rhaglenni i fodloni eu nodau iechyd a lles. Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn creu profiadau cadarnhaol a hyrwyddo ein cynigion hamdden a ffitrwydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn angerddol dros ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a bydd yn barod i gynorthwyo’r uwch reolwyr i ddatblygu a hyrwyddo rhaglenni ffitrwydd cyffrous ac arloesol. Yn ychwanegol at hyn fe fyddwch yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am weithrediad y ganolfan o ddydd i ddydd gan gynnwys iechyd a diogelwch, a gofal i gwsmeriaid.

Mae’r gallu i ddangos profiad o weithio mewn amgylchedd tîm a hefyd dangos y gallu i weithio ar eich liwt eich hun yn fanteisiol.

Mae sgiliau cyfathrebu da yn Saesneg yn hanfodol, ynghyd ag agwedd gyfeillgar gadarnhaol. Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

Bydd y swydd ar sail rota 2 wythnos gan gynnwys gweithio 1 penwythnos mewn 2, yn ogystal â sifft nos bob wythnos.

Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.

Pam ymuno â Chonwy?

Bod yn rhan o dîm cefnogol a bywiog.
Mwynhau trefniadau gweithio hyblyg.
Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Gweithio mewn swydd sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned.
Elwa o fuddion staff a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
….a llawer iawn mwy!
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Alun Evans, Rheolwr Hamdden (alun.s.evans@conwy.gov.uk / 01492 577943)

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Work base: Creuddyn Sports Centre

Join our Gym Instructor Team at Ffit Conwy!

Are you passionate about helping people and delivering exceptional customer service? Do you thrive in a fast-paced, team-oriented environment? If so, we’d love to welcome you to our Ffit Conwy Contact Centre.

Ffit Conwy have made some exciting changes over the last couple of years including significant investment in our leisure facilities, fitness equipment and technology. One of which is the new gym at Creuddyn Leisure Centre. We have plans for further investment across Conwy, so this is a great time to become a member of the Ffit Conwy Team.

As a Gym Instructor, you’ll be the friendly face within our gym, supporting customers with inductions, programme sets and programme reviews to meet their health and wellbeing goals. You’ll play a key role in creating positive experiences and promoting our leisure and fitness offerings.

The successful applicant will have a passion for delivering excellent customer service and will be willing to assist senior management in developing and promoting an exciting and innovative fitness programme. In addition to this, you will be part of a team that are responsible for the daily operation of the centre including health and safety and customer care.

Having the ability to show experience in working within a team environment and also being able to demonstrate the capability of working on your own initiative will be advantages.

Good communication skills in English are essential, along with a friendly positive attitude. The ability to communicate in Welsh is desirable.

The job will be on a fixed 2 week rota basis and will include working 1 weekend in 2, as well as a night shift every week.

Due to the nature of the work, this post is subject to a satisfactory disclosure check from the Disclosure and Barring Service

Why Join Conwy?

Be part of a supportive and energetic team.
Enjoy flexible working arrangements.
Access training and development opportunities.
Work in a role that makes a real difference to your community.
Benefit from staff rewards and the Local Government Pension Scheme.
…..plus much more!
Manager details for informal discussion: Alun Evans, Leisure Manager (alun.s.evans@conwy.gov.uk/ 01492 577943)

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon