Dewislen

Casual NERS Exercise Professional

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 01 Hydref 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 15 Hydref 2025
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ006822

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Sir Conwy

Mae cyfle i Weithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol Achlysurol cymwys ac ymroddedig ymuno â’n tîm yn Adran Gwasanaethau Hamdden Conwy.

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy’n anelu i wella iechyd a lles oedolion anweithgar nad ydynt yn symud llawer sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd eisoes yn dioddef o gyflwr cronig. Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i wreiddio arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.

Ar ôl eu hatgyfeirio, mae cleifion sy’n bodloni’r meini prawf yn cael eu gwahodd i’w canolfan hamdden leol ar gyfer asesiad cychwynnol gyda gweithiwr atgyfeirio ymarfer corff proffesiynol cymwys. Byddant yn cael cynnig rhaglen ymarfer corff wedi ei theilwra, dan oruchwyliaeth am 16 wythnos a bydd eu cynnydd yn cael ei adolygu ar gyfnodau allweddol.

Fel Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno’r rhaglen Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghonwy. Bydd deiliad y swydd yn cynnal ymgynghoriadau cychwynnol ac adolygiadau parhaus gyda’r holl gleientiaid; goruchwylio sesiynau campfa; a hwyluso dosbarthiadau ymarfer corff grŵp fel rhan o’r swydd.

Mae cymhwyster Atgyfeirio i wneud Ymarfer Corff cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Roaxana Coleson, Goruchwyliwr NERS 01492 576134 Roxana.coleson@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.


Work base: County wide

An opportunity has arisen for a suitably qualified and dedicated Casual Exercise Professional to join our team within Conwy’s Leisure Services Department.

The National Exercise Referral Scheme (NERS) is a chronic condition prevention and management programme which aims to improve the health and wellbeing of sedentary and inactive adults who are at risk of developing or who have an existing chronic condition. It provides a 16-week programme of physical activity to individuals referred by NHS health professionals, using behaviour change techniques to embed positive physical activity habits.

Once referred, patients that meet the criteria are invited to their local leisure centre for an initial assessment with a qualified exercise referral professional. They will be offered a tailored, supervised exercise programme for 16 weeks and their progress will be reviewed at key points.

As an Exercise Professional you will play an integral role in the delivery of the Exercise Referral programme in Conwy. The post holder will conduct initial consultations and ongoing reviews with all clients; supervise gym sessions; and facilitate group exercise classes as part of the role.

A recognised Exercise Referral qualification is essential for this post.

Manager details for informal discussion: Roxana Coleson, NERS Supervisor, 01492 576134 Roxana.coleson@conwy.gov.uk

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon