Dewislen

Customer Service Assistant

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 01 Hydref 2025
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 15 Hydref 2025
Lleoliad: Conwy, Conwy County
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ006814

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Venue Cymru

Oes gennych chi sgiliau TG da a’r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio ein systemau / tiliau? Ydych chi’n aelod cyfeillgar o dîm, sy’n gallu cynnig gwasanaeth cwsmeriaid da i’r cyhoedd?

Fyddech chi’n mwynhau bod yn rhan o awyrgylch prysur sy’n cynnal y gigs, y sioeau a’r digwyddiadau diweddaraf?

Venue Cymru yw lleoliad adloniant a digwyddiadau mwyaf y rhanbarth ac fel Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid mi fyddwch chi’n gweithio yn ein swyddfa docynnau brysur yn helpu ein cwsmeriaid i brynu tocynnau ar gyfer sioeau neu archebu bwrdd yn ein bwyta, yn ogystal â gweithio yn y dderbynfa yn croesawu pobl sy’n mynd i gynadleddodd a digwyddiadau eraill.

Fe fydd y swydd wedi’i lleoli yn Venue Cymru yn bennaf ond y bydd angen ar adegau i weithio yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn sydd yn gyfleuster â 400 o seddi sy’n hwyluso rhaglen brysur o sioeau ffilm a chynyrchiadau byw.

Bydd eich oriau gweithio ar sail cytundeb oriau blynyddol, gan weithio ar gyfartaledd o 20 awr yr wythnos, wedi’i drefnu ar sail rota shifftiau, ac yn cynnwys gweithio ar benwythnosau, nosweithiau a gwyliau banc.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Amy Pearson, Rheolwr Y Swyddfa Docynnau (Amy.pearson@veneucymru.co.uk / 01492 879771)

Gofynion y Gymraeg: Hanfodol - Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Croesewir ceisiadau gan rai sy’n dysgu’r Gymraeg. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Work base: Venue Cymru

Do you have good IT skills and the ability to learn to use our systems / tills? Are you a friendly team player, capable of offering great customer service to the public?

Would you enjoy being part of a buzzing atmosphere hosting the latest gigs, shows and events?

Venue Cymru is the region’s largest entertainment and events venue so as a Customer Services Assistant you would find yourself working both in our busy box office helping our patrons purchasing tickets for our shows or booking a table in our restaurant, as well as at reception welcoming our many conference and event delegates.

The role will mainly be based at Venue Cymru but there will be a requirement on occasions to work at Theatr Colwyn, Colwyn Bay which is a vibrant 400 seat venue facilitating a busy programme of both film shows and live productions.

You will work on an annualised hours contract, working an average of 20 hours a week arranged on a shift rota basis and includes weekend, evening and bank holiday working.

Manager details for informal discussion: Amy Pearson, Box Office Manager (Amy.pearson@veneucymru.co.uk / 01492 879771)

Welsh Language Skills: Essential - The ability to hold a conversation in Welsh is essential for this post. We welcome applications by Welsh learners. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon