Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod)
Dyddiad hysbysebu: | 27 Medi 2025 |
---|---|
Cyflog: | £38,249 i £45,413 bob blwyddyn, pro rata |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 12 Hydref 2025 |
Lleoliad: | LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad. |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Bangor University |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | (Cyf: BU03861) |
Crynodeb
Prifysgol Bangor
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod)
(Cyf: BU03861)
Graddfa: 7 - £38,249 - £45,413
Gwahoddir ceisiadau am swydd cyfnod penodol fel Darlithydd yn y Gyfraith (Addysgu ac Ysgolheictod) yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflwyno modiwlau israddedig ac ôl-radd sydd eisoes yn bodoli ac wedi’u dilysu. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys addysgu’r Gyfraith, gan gynnwys datblygu adnoddau addysgu a marcio aseiniadau. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddarparu cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr a chynorthwyo gyda gweithgareddau recriwtio.
Dylai fod gan ymgeiswyr PhD yn y Gyfraith (neu fod bron â chwblhau), neu mewn disgyblaeth gysylltiedig neu dylent allu dangos bod ganddynt brofiad perthnasol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosibl, er mwyn dechrau addysgu yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Medi. Swydd cyfnod penodol yw hon am 5 mis dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 Hydref, 2025.
Cynhelir cyfweliadau am y swydd hon cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad cau.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.