Gweinyddwr Ansawdd a Safonau
Posting date: | 24 September 2025 |
---|---|
Salary: | £26,942 to £29,959 per year |
Hours: | Full time |
Closing date: | 12 October 2025 |
Location: | Bangor, Gwynedd |
Remote working: | On-site only |
Company: | Bangor University |
Job type: | Permanent |
Job reference: | BU03836 |
Summary
Chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ansawdd a gwella dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Bangor.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Ansawdd a Safonau trefnus a rhagweithiol i ymuno â'n tîm Ansawdd a Safonau yng Nghofrestrfa'r Brifysgol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n helpu i sicrhau bod ein rhaglenni academaidd yn bodloni'r safonau uchaf a bod cefnogaeth dda o ran cyfleoedd i wella ymhellach.
Fel Gweinyddwr Ansawdd a Safonau, byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer ystod eang o weithgareddau sy'n gysylltiedig â sicrhau a gwella ansawdd, gan gynnwys helpu i drefnu digwyddiadau allweddol fel cynhadledd flynyddol CELT (Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu) y Brifysgol, cefnogi prosesau arsylwi gan gymheiriaid, a chynorthwyo â gweithdrefnau ansawdd academaidd yn ôl yr angen.
Mae'r swydd yn cynnwys cysylltu â staff academaidd, gwasanaethau proffesiynol, a rhanddeiliaid allanol, yn ogystal â chadw cofnodion cywir a diweddaru tudalennau gwe ac adnoddau mewnol. Yn ystod cyfnodau prysur, byddwch hefyd yn cefnogi'r tîm Ansawdd a Safonau ehangach gyda thasgau gweinyddol hanfodol, gan helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n llyfn ar draws y Brifysgol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau trefnu rhagorol a sylw i fanylion ac sy'n gallu cyfathrebu'n glir ac yn broffesiynol ag amrywiaeth o randdeiliaid. Byddwch yn hyderus yn defnyddio Microsoft Office ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm tra hefyd yn gyfforddus yn rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.