Dewislen

Cynorthwy-ydd Addysgu ADY Gradd 3

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 17 Medi 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 3 (pwynt 3-6)
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 26 Medi 2025
Lleoliad: Tyllgoed, Cardiff, CF5 3PZ
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1507442

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r adran Anghenion Dysgu Ychwanegol.Mae hon yn swydd 32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig (39 wythnos)Cyflog; Gradd 3 3 SCP 3-6 (£24,796- £25,989 pro rata*)Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad o weithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gan bobl sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal ymddygiadol ac emosiynnol, gofal plant neu ddarpariaethau addysgol eraill.
Gall hyn fod yn gyfle ardderchog i graddedigion sydd yn ystyried gyrfa dysgu ond yn dymuno cael profiad o weithio mewn ysgol yn y lle cyntaf.
Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol ac awtistiaeth. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ac holl staff yr adran Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau hanfodol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio’n achlysurol yn y Ganolfan Arbenigol gyda disgyblion sydd ag anawsterau amrywiol, gan gynnwys rhai mwy heriol eu hymddygiad a’i anghenion sydd angen mewnbwn 1:1 neu mewn grŵp bach.
Rydym yn awyddus datblygu ac uchafu sgiliau’r ymgeisydd llwyddiannus yn un o’r meysydd canlynol:
· Y Celfyddydau Mynegiannol
· Iechyd a Lles
· Y Dyniaethau
· Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
· Mathemateg a Rhifedd
· Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth cydweithwyr o fewn y Tîm Cynnal Dysgu, a phob cyfle i ddilyn trywydd diddordeb penodol o fewn y swydd.

Gwneud cais am y swydd hon