Menu

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch Arbenigol- Iaith a Lleferydd

Job details
Posting date: 16 September 2025
Salary: Not specified
Additional salary information: Gradd 6 (pt19-25)
Hours: Full time
Closing date: 06 October 2025
Location: Ystum Taf, Cardiff, CF14 2JL
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Contract
Job reference: 1507248

Apply for this job

Summary

Ysgolion Cyfun Cymraeg Plasmawr, Bro Edern a Glantaf
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch Arbenigol- Iaith a Lleferydd(cytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf)
Gradd 6
(pro rata 32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos)
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser i ddatblygu hyder iaith a lleferydd disgyblion o fewn ysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg Caerdydd.
Mae ysgolion Glantaf, Plasmawr a Bro Edern yn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n gwasanaethu sir Caerdydd. Rydym fel ysgolion yn nodi yr angen cynyddol am gymorth pwrpasol i ddisgyblion sy’n profi heriau o ran llythrennedd Cymraeg a hyder ieithyddol. Mae data mewnol a chanlyniadau profion cenedlaethol llythrennedd yn amlygu grwpiau o ddisgyblion – yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 3 – sy’n perfformio’n sylweddol is na’u cyfoedion. Mae hyn yn awgrymu anghenion cymhleth sy’n gysylltiedig â sgiliau iaith lafar, dealltwriaeth ieithyddol, ac anawsterau cyfathrebu ehangach.
Rydym yn gyffrous iawn i gynnig cyfle i unigolyn brwdfrydig i hyfforddi a gweithio gyda ni i ddatblygu neu wella sgiliau therapydd lleferydd a iaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai’r unigolyn yn gallu cynnig ymyrraeth strwythuredig ac arbenigol i ddisgyblion sy’n profi’r rhwystrau hyn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar, strategaethau iaith a hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhugl mewn cyd-destunau academaidd a chymdeithasol.
Rhan allweddol o’r gwath fydd ehangu ar y ddarpariaeth ardderchog ond cyfyngedig a geir gan arbenigwyr iaith a lleferydd o fewn Adran Addysg Cyngor Sir Caerdydd. Dyma gyfle ardderchog i unigolyn ar ddechrau eu gyrfa yn y maes, neu unigolyn graddedig gyda diddordeb cychwynol i hyfforddi o fewn y maes. Ein nod yw medru ehangu a chryfhau y gweithlu cyfrwng Cymraeg sy’n gwasanaethu o fewn y sector, ynghyd a darparu cefnogaeth estynedig i’n disgyblion. Mae ein gwaith llwyddiannus eisioes o ran cyflogi myfyrwyr israddedig ac ol-raddedig yn dangos bod nifer o unigolion graddedig o’n Prifysgolion yn eiddgar i brofi gwaith mewn ysgolion, ac wedi’r profiad, maent wedi dewis gyrfa addysgu, neu yrfa mewn gwasanaeth cefnogi ysgolion, megis therapyddion iaith a lleferydd.
Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn sydd â diddordeb mewn datblygiad iaith a lleferydd ymysg pobl ifanc, gweithiwr ieuenctid neu gymdeithasol, Athro Newydd Gymhwyso (ANG), athro sydd rhwng swyddi neu heb swydd neu gynorthwyydd gradd uchel fyddai a phrofiad neu ddiddordeb yn y maes o ddatblygu sgiliau ieithyddol drwy ymarfer strategaethau neu ymyrraethau.
Byddwch yn gweithio yn uniongyrchol gyda myfyrwyr ac yn agos gyda Arweinwyr ADY o fewn y dair ysgol. Bydwch yn manteisio ar arfer rhagorol o fewn yr adrannau hyn ynghyd a’r gefnogaeth allweddol i datblygu ymhellach ochr yn ochr ac athrawon arbenigol y sir. Byddwch yn angerddol dros sicrhau’r gynhaliaeth orau i ddisgyblion, yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu darparu arweiniad a strategaethau effeithiol i gydweithwyr wrth ddatblygu arfer dda ymhellach.
Wrth ymuno â ni, byddwch yn ymuno â thim profiadol estynedig sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion o fewn cymuned ein ysgolion. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda pobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd pobl ifanc.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r pennaeth cysylltiol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun ein cymuned.
Dyddiad Cau: 9am, Dydd Llun, Hydref 6, 2025
Dyddiad tebygol ar gyfer cyfweliad: bore, 13 Hydref 2025
Dyddiad dechrau y swydd: cyn gynted a phosib

Apply for this job