Dewislen

Prentis – Yr Adran Iechyd a Diogelwch

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Awst 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: £7.55 per hour (Year 1) then National Minimum Wage for age (Year 2).
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 27 Awst 2025
Lleoliad: Carmarthen, Carmarthenshire
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 3 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Dyfed-Powys Police
Math o swydd: Prentisiaeth
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Iechyd a Diogelwch
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd Prentisiaeth
Cyflog £7.55 per hour (Year 1) then National Minimum Wage for age (Year 2).
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Tymor Sefydlog
Rhoi Nifer o Fisoedd (Misoedd) 24
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 16 Medi 2025
Dyddiad cau 27/08/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Rhaglen Brentisiaeth

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a dysgu wrth ennill arian, yn ogystal â chael cymhwyster cydnabyddedig?

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gyflwyno prentisiaethau newydd ar draws adrannau Staff Heddlu wrth inni edrych ar ddenu talent leol o bob oed a chefndir. Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd a fydd gennym yn cynnwys:

Yr Adran Iechyd a Diogelwch
Mae ein cynllun prentisiaeth ar agor i unigolion 16 oed a hŷn sy’n gadarnhaol ac yn angerddol dros yrfa yn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae ein rhaglen yn para 24 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein prentisiaid yn ennill llawer o brofiad gwaith mewn meysydd o’n hamgylchedd plismona. Ar yr un pryd, byddwch chi’n astudio cymhwyster lefel 2 neu 3 sy’n berthnasol i’r swydd.

Pwy yw Heddlu Dyfed-Powys?

Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.

Tâl a Manteision

Byddwch chi’n derbyn y gyfradd tâl ar gyfer prentisiaid yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y tâl ar gyfer yr ail flwyddyn yn ddibynnol ar oed.



21 a throsodd

18 i 20

O dan 18

Cyfradd Prentis

Blwyddyn 1

N/a

N/a

N/a

£7.55

Blwyddyn 2

£12.21

£10

£7.55

N/A



*Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1af Ebrill 2025*

Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno, yn ogystal â

24 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
Dewis i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith 
Mynediad dewisol i gampfa ar y safle
Gweithio Hybrid/Ystwyth (gan ddibynnu ar eich swydd)
Cefnogaeth gan ein Huned Iechyd Galwedigaethol
Cynllun pensiwn
Cyfleoedd gwaith hyblyg
Darpariaethau tâl salwch
Sut mae gwneud cais?

Os ydych chi’n credu bod y sgiliau a’r angerdd gyda chi i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys, cliciwch y ddolen isod er mwyn darllen y proffil swydd.

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-cv-welsh.pdf

Os byddwch chi’n llwyddiannus yn eich cyfweliad, gofynnir ichi ddarparu copi o’ch tystysgrif sy’n dangos eich bod chi wedi derbyn graddau A – C yn eich arholiadau TGAU iaith Saesneg a Mathemateg (neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth).

Dalier sylw: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.

Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.

Angen rhagor o Wybodaeth?

Peidiwch ag oedi i gysylltu

Gwneud cais am y swydd hon