Menu

Gweithredwr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu

Job details
Posting date: 05 August 2025
Salary: £27,747 to £29,649 per year
Additional salary information: Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos Canran Sifft 20% Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 13.74%
Hours: Full time
Closing date: 28 August 2025
Location: SA312PD
Remote working: On-site only
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu Dyfed-Powys
Math o rôl: Staff Heddlu
Maes Busnes/Adran Canolfan Cyfathrebiadau'r Heddlu
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog
Gradd D
Cyflog £27,747 - £29,649 (FTE)
Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos
Canran Sifft 20%
Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 13.74%
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 3
Dyddiad Cyfweliad 29 Medi 2025
Dyddiad cau 28/08/25 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd:

Gallech chi helpu pobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf?
Ydych chi’n dda am wrando? Yn gysurlon ac empathig?
A allwch chi gyfathrebu yn Gymraeg ar safon lefel 3 neu uwch?
Ymunwch â Heddlu Dyfed-Powys fel un o’n Gweithredwyr ymroddedig yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â ffocws cryf ar gwsmeriaid i ateb galwadau brys a rhoi cyngor a chymorth i gymunedau Dyfed-Powys.

Os oes gennych gwestiynau am y swydd, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cwrdd â’r tîm a gweld ble allech chi fod yn gweithio, cofrestrwch er mwyn cadw lle am un o’r digwyddiadau recriwtio trwy ebsotio:FCCRecruitment@dyfed-powys.police.uk

Nos Fercher 13 Awst a 6yh
Dydd Sadwrn 16 Awst am 11yb

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Pwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd gael mynediad at gymorth, yn aml mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Weithiau, bydd angen ichi wneud penderfyniadau sy’n gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Ymdrin yn brydlon, proffesiynol ac effeithiol â’r holl gyswllt â chwsmeriaid, gan gynnwys casglu a gwerthuso gwybodaeth a geir drwy alwadau ffôn a chyswllt digidol; datrys galwadau am wasanaeth, lle bynnag y mae’n bosibl; anfon swyddogion heddlu’n amserol ac effeithiol i ddigwyddiadau, gan fodloni galw rheng flaen drwy ddefnyddio ‘Gorchymyn a Rheoli’ yn effeithiol o fewn amgylchedd Ystafell Reoli’r Heddlu.
Darparu safon gwasanaeth uchel i gwsmeriaid mewnol ac allanol er mwyn cefnogi safonau gwasanaeth perthnasol a pholisïau a chanllawiau’r heddlu.
Ateb a gweithredu galwadau difrys (101) a brys (999) a chyswllt digidol mewn modd amserol.
Ymateb i a gweithredu cyswllt drwy sianeli digidol (gan gynnwys Cyfryngau Cymdeithasol, yr Hafan Ar-lein Unigol, e-byst ac ati) mewn modd amserol.
Dadansoddi a chrynhoi gwybodaeth a ddarperir gan gwsmeriaid a chreu cofnod cywir ar STORM (System Gofnodi Digwyddiadau a Defnydd o Adnoddau) lle mae hynny’n briodol a diweddaru pan fo angen.
Rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid, gan eu cyfeirio at asiantaethau eraill lle bo’n briodol ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â’r heddlu.
I’ch cefnogi yn y swydd amrywiol hon, bydd hyfforddwr penodol o Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n eich hyfforddi mewn dosbarth am y 7 wythnos gyntaf. Yna, byddwch chi’n symud ymlaen at batrwm sifft, gan weithio ochr yn ochr â mentor profiadol tan fyddwch chi’n ddigon cymwys i ateb galwadau ar ben eich hun.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Cyflog, gan gynnwys lwfansau ar gyfer gweithio sifftiau ac ar benwythnosau, o £37,109 (ar ôl hyfforddiant), sy’n codi i £39,653 dros 3 blynedd
24 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynyddu i 29 ddiwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) yn ogystal ag 8 gŵyl gyhoeddus
Mynediad at ddosbarthiadau ffitrwydd a champfa ar y safle
Gostyngiadau gan fanwerthwyr amrywiol drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd ar gyfer gweithio’n hyblyg
Hawliau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Caiff ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio oriau rhan amser wneud cais hefyd, ac rydyn ni’n croesawu eu ceisiadau. Bydd cyflogau a hawl gweithwyr rhan amser i wyliau blynyddol ar sail pro rata.

Noder: Mae cyfnod daliadaeth o ddwy flynedd ar y swydd hon (mae’n rhaid ichi aros yn y swydd hon am 2 flynedd cyn gwneud cais am swyddi eraill gyda’r Heddlu).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol, fetio a geirda.

Sut mae gwneud cais?

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i ddarllen y proffil swydd.

Ar gyfer y broses ymgeisio hon, nid oes angen ichi ddarparu tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau (adran olaf y ffurflen gais). Wrth wneud cais ar gyfer y swydd, gadewch yr adran hon yn wag wrth gyflwyno’ch ffurflen gais.

Mae’r broses o ddethol Gweithredwr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n cynnwys 4 cam:

Ffurflen gais – peidiwch â chwblhau adran gymwysterau’r ffurflen gais.
Asesiad Ar-lein – Dydd Mercher 3 Medi i ddydd Mercher 10 Medi 2025 (cewch gwblhau’r asesiad ar unrhyw adeg yn ystod y dyddiadau hyn).
Bydd Asesiad yn y Gwaith yn cael ei gynnal ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin, i’w gynnal 17, 18 ac 19 Medi 2025.
Cynhelir cyfweliad mewnol yr heddlu yn ystod yr wythnos yn cychwyn 29 Medi ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin.
Dylai ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith nodi bod yr asesiad cychwynnol ar-lein yn cael ei gwblhau yn Saesneg. Gellir cynnal prosesau mewnol yr Heddlu, gan gynnwys asesiad yr heddlu a’r cyfweliad, yn Gymraeg. Er mwyn cefnogi ymgeiswyr, ac er mwyn cwblhau eich cais yn Gymraeg, awgrymir eich bod chi’n newid yr iaith i Gymraeg ar y Bwrdd Swyddi.

Edrychwch hefyd ar y canllawiau i ymgeiswyr, sy’n rhoi mwy o fanylion am sut i gwblhau eich cais.

Y Gymraeg ac amrywiaeth

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd hon, peidiwch ag oedi i e-bostio’ch ymholiad at: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Ceidw Heddlu Dyfed-Powys yr hawl i gau'r hysbyseb hon os ydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau addas. O'r herwydd, rydym yn annog ceisiadau cynnar er mwyn sicrhau eich ystyried am swydd.

Apply for this job