Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Dirprwy Reolwr Talaith y Gogledd Orllewin

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 24 Gorffennaf 2025
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 08 Awst 2025
Lleoliad: Gwynedd, Ynys Môn
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Crynodeb

Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Cynllunio strategol:

Dirprwyo ar ran Rheolwr y Dalaith i:
• Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Talaith ar gyfer y dalaith i sicrhau cyfeiriad clir i’r holl dîm o swyddogion a Chydlynyddion yn y dalaith gan gynnwys Swyddogion Ti a Fi, Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd a Swyddogion eraill er mwyn cyfoethogi’n gwaith o gefnogi’n haelodau
• Mynychu a chyfrannu at ystod o gyfarfodydd lefel uchel taleithiol e.e Y Blynyddoedd Cynnar, Cyfarfodydd Strategol y Gymraeg mewn Addysg, EYDCP ac is grwpiau sirol megis Marchnata, Cynllunio’r Gweithlu, ayyb
• Cyd weithio a swyddogion amrywiol ar lefel uchel e.e Cyfarwyddwyr Addysg, Llywodraeth Cymru
• Paratoi adroddiadau ac ymatebion ysgrifenedig ar gyfer y CSGA’u
• Cwrdd a’r Rheolwyr Blynyddoedd Cynnar / Gofal Plant yr Awdurdodau Lleol i gynllunio ar y cyd ar gyfer gofal ac addysg Gymraeg.
• Eirioli a hyrwyddo gwaith Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg mewn cyfarfodydd amrywiol
• Arwain ar gynlluniau strategol lleol mewn partneriaeth a’r Rheolwr Talaith
• Cynnig arweiniad strategol a gweledigaethol ar gyfer gwaith y timau uchod.
• Cefnogi’r Rheolwr Talaith i weithredu targedau a chynlluniau gweithredu’r Asesiadau Digonolrwydd Plant a’r Cynlluniau Cymraeg Mewn Addysg.
Partneriaethau:
• Creu partneriaethau a chyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys yr awdurdodau lleol, mentrau iaith, partneriaid Cwlwm, Dechrau’n Deg, penaethiaid ysgolion, AGC, Athrawon Ymgynghorol, staff y darpariaethau a rhieni.
• Cydweithio gyda Phrif Swyddog Dysgu Sylfaen er mwyn cefnogi lleoliadau i weithredu’r Cwricwlwm newydd. (Cwricwlwm i Gymru)
• Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo gwaith y dalaith, arwain ar gynlluniau megis wythnos bwyllgorau, a rhannu arfer dda rhwng Cylchoedd
• Cynnal cyflwyniadau ar waith y dalaith yn ôl yr angen i rhanddeiliaid megis y Pwyllgorau Sir, aelodau Mudiad Meithrin, tîm Blynyddoedd Cynnar, Penaethiaid ysgolion ayyb.
• Cyd weithio â’r adran bolisi gan adnabod unrhyw newidiadau i batrymau cenedlaethol ym maes polisi e.e arolygon AGC, Estyn, Dechrau’n Deg.
• Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen

Datblygu:

• Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i gyfleodd i ddatblygu Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi yn ehangach drwy gynlluniau Dechrau’n Deg a Sefydlu a Symud.
• Cydweithio a Phrif Swyddogion Cymraeg i Blant i sicrhau llwybr dilyniant ar lawr gwlad.
• Cefnogi’r Rheolwr Talaith i fonitro’r gwaith taleithiol gan sicrhau cysondeb a safon ar draws waith y dalaith.
• Cydweithio gyda Phrif Swyddog Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin a chynllun Croesi’r Bont er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
• Cefnogi’r Rheolwr Talaith i farchnata a hyrwyddo gwaith y dalaith trwy’r Cyfryngau Cymdeithasol a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg.
• Adnabod ac arwain cynlluniau gweithredu er mwyn cynyddu ac ymestyn gwaith y Mudiad yn y dalaith.
Rheoli ac Arwain:

• Dirprwyo i’r Rheolwr Talaith fel bo angen
• Rheoli tîm Swyddogion Ti a Fi Teithiol y dalaith yn ôl y gofyn gan y Rheolwr Talaith
• Cefnogi’r Rheolwr Talaith i gefnogi, cynghori a bugeilio’r timau taleithiol gan ysgwyddo cyfrifoldeb llawn tra’n dirprwyo ar ran y Rheolwr Talaith.
• Cefnogi pwyllgorau a’r tîm i ddelio gyda chwynion swyddogol gan gynnwys cefnogaeth i gynnal ymchwiliadau, cyfarfodydd disgyblu, cynnal sgyrsiau anodd.
• Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Gydlynyddion ar y cyd â’r Rheolwr Talaith.
• Paratoi adroddiadau rheolaidd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer Cwlwm, Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol.

Rheoli ac Arwain y Cylchoedd Canolog:
• Rheoli Arweinyddion Cylchoedd Canolog yn uniongyrchol gan reoli eu gwaith a chynnig arweiniad a chefnogaeth gadarn
• Arwain cyfarfodydd tîm Cylchoedd Canolog yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
• Gweithredu a dirprwyo ar ran Unigolion Cyfrifol y Cylchoedd Canolog am holl weithrediad y cylchoedd canolog.
• Cydweithio a swyddogion y sir a’r athrawon ymgynghorol Addysg a Dechrau’n Deg i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
• Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC. Estyn, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (CDGPC) gan sicrhau bod y cylchoedd canolog yn cwrdd â safonau a rheoliadau gofynnol.
• Adnabod cyfleoedd i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
• Rheoli cyllideb y cylchoedd canolog a thrafod a chytuno ar gyllid a thargedau blynyddol Dechrau’n Deg.
• Ymgeisio am grantiau amrywiol ar ran y cylchoedd canolog
• Monitro cynnydd y cylchoedd canolog a gwerthuso’r gwasanaethau yn rheolaidd gan baratoi adroddiadau i Fwrdd Cyfarwyddwyr Meithrinfeydd Cymru Cyf.
• Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Talaith a Phennaeth Adran Datblygu Gwasanaethau.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.