Menu

Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg

Job details
Posting date: 22 July 2025
Salary: £29,179 to £33,483 per year
Hours: Full time
Closing date: 21 August 2025
Location: Wrexham, Wales
Remote working: On-site only
Company: Wrexham University
Job type: Temporary
Job reference: 2425860

Apply for this job

Summary

TROSOLWG

Mae Prifysgol Wrecsam yn awyddus i benodi Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i arwain gwaith y gangen yn y brifysgol o dan arweiniad Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg.

Mae Prifysgol Wrecsam yn ehangu ac yn ymestyn y ddarpariaeth a'r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar draws y brifysgol. Rydym yn galluogi hyn drwy gydweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Ddysgu Gymraeg Genedlaethol ac mewn cydweithrediad â'n cyfadrannau a'n gwasanaethau proffesiynol. Bydd deiliaid y swydd yn gyfrifol, o dan arweiniad Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg, am arwain cangen Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y brifysgol a chynnig cefnogaeth gweinyddol i Bennaeth Darpariaeth y Gymraeg.

Prif gyfrifoldeb y swyddog Cangen fydd gweithio gyda Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg gan gyfrannu at wireddu Strategaeth Acadeaidd Cymraeg y Brifysgol, CYFLE a chefnogi'r gymuned Gymraeg yn y brifysgol ar draws campws Wrecsam, Llaneurgain a Llanelwy.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg ac arddangos brwdfrydedd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Mae agweddau hanfodol y swydd fel a ganlyn:

Brwdfrydedd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg

Wedi derbyn addysg i lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.

Y gallu i gyfathrebu'n broffesiynol ac yn gywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Y gallu i deithio ar draws holl gampysau Prifysgol Wrecsam ac yn achlysurol ledled Cymru.

Sgiliau gweinyddol effeithiol.

Y gallu i weithio yn hyblyg ac i berfformio'n dda o dan bwysau

Parodrwydd i dderbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl y galw.

Yn meddu ar hunan gymhelliad, y gallu i weithio ar eich menter eich hun, a defnyddio’ch amser yn effeithiol.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag Elen Mai Nefydd - Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg e.m.nefydd@wrexham.ac.uk

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job