Dewislen

Cynorthwy-ydd Addysgu –Llythrennedd

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 04 Gorffennaf 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: £28,419- 32,736 pro rata, yn aros dyfarniad cyflog
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 11 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Tyllgoed, Cardiff, CF5 3PZ
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1497832

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Llythrennedd brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yma yn Ysgol Plasmawr. Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion llythrennedd. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg prif ffrwd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig ac yn bennaf o dan arweiniad Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau perthnasol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i helpu ein disgyblion gwan o rhan llythrennedd. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio o fewn ardaloedd magwraeth yr ysgol mewn grwpiau bychain neu drwy fewnbwn 1:1 gyda disgyblion sydd ag anawsterau llythrennedd.Fe fydd angen i’r ymgeisydd weithredu cynlluniau’r Tîm ADY a disgwyliad i gyfathrebu gyda rhieni a theuluoedd. Mi fydd hefyd disgwyliad i helpu trefnu a chynllunio er mwyn datblygu safon llythrennedd unigolion.
Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth gan athrawon arbenigol a’r holl adran Anghenion Dysgu Ychwanegol.Swydd rhan amser 16.25 awr (2.5 diwrnod) yn ystod tymor unig.
Mae'n ofynnol gwneud cais am dystysgrif DBS uwch ar gyfer y rôl hon
Cyflog: £28,419- 32,736 (CaALl/FTE) pro rata
*Nodwch fod y swydd yn aros am gadarnhad dyfarniad cyflog

Gwneud cais am y swydd hon