Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Uwch Gynorthwyydd Addysgu Lles

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 23 Mehefin 2025
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 5 (pt11-19) £27,269-£31,067 pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 07 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Ystum Taf, Cardiff, CF14 2JL
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 1495347

Crynodeb

Swydd: Uwch Gynorthwyydd Addysgu Lles
Graddfa Cyflog - Gradd 5 (pt11-19) £27,269-£31,067 pro rata 32.5awr yr wythnosMae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi datblygu ei darpariaeth ac effeithiolrwydd cymorth llesiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy ddatblygu ‘Ystafell Keri’ a 'Hafan Roger Boore'. Mae ein arweinwyr lles yn cynllunio cefnogaeth emosiynol ac ymddygiadol megis ELSA, THRIVE gyda’r prif nod o ailintegreiddio disgyblion yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad cyflawn i'r cwricwlwm. Mae'r arweinwyr yn hyblyg ac yn barod i addasu’r ddarpariaeth yn ôl yr angen i sicrhau bod y gwaith yn gwella cynnydd a llesiant disgyblion. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae’r ysgol yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn darparu cefnogaeth benodol ac addas iddynt. Mae’r amrywiaeth o ymyraethau yn Ystafell Keri yn cael effaith gadarnhaol ar hyder disgyblion a’u gallu i reoleiddio emosiynau, sydd yn sicrhau bod pob un disgybl yn cael yr addysg gorau posib.
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi arweinydd brwdfrydig i swydd llawn amser i weithio fel Uwch Gynorthwyydd Addysgu yn ein Hadran Cynnal Dysgu o fewn y brif ffrwd i gefnogi ein disgyblion sydd ag anawsterau lles, emosiynol ac ymddygiadol. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion wrth ddatblygu gwytnwch a sgiliau rhyngbersonol. Bydd angen trefnu a chyflwyno sesiynau amrywiol er mwyn cefnogi unigolion mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth. e.e Thrive, ELSA neu debyg.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Bydd angen gweithio gyda disgyblion sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y profiad, gwybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi disgyblion. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau hyn os oes eu hangen. Bydd angen agwedd bositif a phenderfynol, yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff ac yn barod am heriau newydd.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.