Dewislen

Housing Solutions Team Leader

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 19 Mehefin 2025
Cyflog: £39,513 i £42,708 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 03 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ006648

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb


Lleoliad gwaith: Coed Pella

Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion sydd ag angen am dai yn y sir?

Rydym ni’n chwilio am ddau unigolyn hynod frwdfrydig i ymuno â'n tîm ac i arwain a datblygu ein tîm o Swyddogion Asesu Datrysiadau Tai i atal a dileu digartrefedd yng Nghonwy.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r gwasanaeth Datrysiadau Tai yng Nghonwy. Rydym ni wedi ailstrwythuro’r gwasanaeth yn ddiweddar ac yn bwrw ymlaen â'n Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, gyda'r nod o wneud digartrefedd yn rhywbeth prin, byr, nad yw’n digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd drwy sefydlu Gwasanaeth Atal newydd o fewn y gwasanaeth Datrysiadau Tai.

Mae gennym ni ddwy swydd Arweinydd Tîm lawn amser ar gael, gydag un swydd barhaol ac un swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd.

Bydd yr Arweinydd Tîm parhaol yn arwain tîm o Swyddogion Asesu Datrysiadau Tai sy’n gweithio gyda phobl ddigartref a phobl sy’n byw mewn llety dros dro, ac mae’r rhain yn cynnwys swyddogion arbenigol sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc a’r rheiny sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar. Byddwch yn edrych ar ddatblygu cynlluniau symud ymlaen ac yn cefnogi’r tîm i wneud penderfyniadau statudol a rhedeg Gwasanaeth ar Ddyletswydd ar gyfer pobl sy’n dod yn ddigartref.

Bydd yr Arweinydd Tîm cyfnod penodol yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Datrysiadau Tai i ddatblygu, creu a recriwtio Tîm Atal Digartrefedd newydd a fydd yn gweithio gydag aelwydydd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Byddwch yn arwain eich tîm i ddatblygu cysylltiadau a rhaglenni atal i sicrhau gwasanaeth atal llwyddiannus a lleihau digartrefedd yn y sir. Mae’n bur debyg y bydd y cyllid yn parhau os yw’r cynllun peilot dwy flynedd yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael y cyfle i weithio'n hyblyg o gartref ac o swyddfa 'Coed Pella' ym Mae Colwyn, sy'n eich galluogi i fod mewn cysylltiad ag adrannau partner gan gynnwys Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Gwasanaethau Ieuenctid a llawer mwy. Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio’n hyblyg.

Byddwch yn elwa o becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau blynyddol (gan ddibynnu ar wasanaeth blaenorol mewn Awdurdod Lleol), Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.

I gael gwybod mwy am y rôl a’r gofynion hanfodol, edrychwch ar y Swydd-Ddisgrifiad sydd ynghlwm, neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch ag Ashleigh Stevens, Rheolwr Datrysiadau Tai ar 01492 576287 neu ashleigh.stevens@conwy.gov.uk


Work base: Coed Pella

Do you want to make a difference to individuals in housing need in the County?

We are looking for two extremely motivated individuals to join, lead and develop our team of Housing Solutions Assessment Officers to prevent and end homelessness in Conwy.

This is an exciting time to be joining the Housing Solutions service in Conwy. We have recently restructured as we move forward with our Rapid Rehousing Transition Plan, working to make homelessness rare, brief and unrepeated in the County. This includes an increasing focus on early intervention and prevention of homelessness with the establishment of a new Prevention Service within the Housing Solutions service.

We have two Team Leaders opportunities available, both full time, with one permanent and one fixed term for two years.

The permanent Team Leader role will be leading a team of Housing Solutions Assessment Officers who are working with those who are homeless and in temporary accommodation, this includes specialist officers focusing on Young People and those leaving prison. This is a fast paced role looking to develop move on plans and support the team with statutory decision making and running a Duty Service for those homeless on the day.

The fixed term Team Leader role will work alongside the Housing Solutions Manager to develop, build and recruit a new Homeless Prevention Team that will be working with households who are at risk of being homeless. You will lead your team to develop prevention tools and contacts with the aim of near universal prevention and thus reducing homelessness in the county. Funding will likely continue should this two year pilot be a success.

You will have the opportunity of working flexibly from both home and the state of the art ‘Coed Pella’ office in Colwyn Bay, which allows you to be in contact with partner departments including Social Care, Youth Justice, Education, Youth Services and many others. We promote and understand the importance of a positive and healthy work life balance and can offer a range of flexible working solutions.

You will benefit from a substantial rewards package, which includes a Local Government Pension Scheme, minimum of 26 days annual leave (depending on previous Local Authority service), Occupational Sick Pay and staff benefits including salary sacrifice cars, Cycle to Work, cashback healthcare, discounts plus much more.

To find out more about the role and the essential requirements, please look at the Job description attached, or for an informal chat please contact Ashleigh Stevens, Housing Solutions Manager on 01492 576287 or ashleigh.stevens@conwy.gov.uk

This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for one post and desirable for one post. We are committed to our Welsh Language Standards. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either Language will not be treated less favourably than each other.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon