Casual Recycling Refuse Loader
Dyddiad hysbysebu: | 11 Mehefin 2025 |
---|---|
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 25 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Cytundeb |
Cyfeirnod swydd: | REQ006630 |
Crynodeb
Lleoliad gwaith: Ledled y sir. Yn gweithio o’r Depos: Mochdre / Llandudno / Llanrwst
Ydych chi eisiau cael incwm ychwanegol yn achlysurol?
Rydym yn chwilio am bobl dibynadwy, prydlon a gweithgar i ymuno â'n tîm casglu gwastraff a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth wrth gadw ein hamgylchedd yn lân.
Byddwch yn yr awyr agored, yn cerdded o amgylch ein sir hardd, yn helpu trigolion trwy gasglu eu deunydd ailgylchu a gwastraff, a byddwch yn cadw’n heini wrth wneud hyn! Dangoswyd bod cerdded y tu allan mewn natur am 20 munud y dydd yn unig yn gwella ffitrwydd a lles.
Rydym yn edrych am bobl i weithio o leiaf un diwrnod yr wythnos - fel arfer 7am – 2.54pm. Rydym yn cynnig yr hyblygrwydd hwn i’r rhai sydd â gwaith arall, sy’n astudio neu sydd â chyfrifoldebau gan fod ein criw achlysurol presennol yn dweud wrthym mai dyma beth maent yn ei werthfawrogi fwyaf am eu cydbwysedd bywyd a gwaith.
Y swydd:
• Llwytho gwastraff ailgylchadwy ac na ellir ei ailgylchu o gartrefi a busnesau
Pam ymgeisio?
• Dim angen profiad, darperir hyfforddiant llawn, gwisg gwaith ac offer amddiffyn personol
• Amgylchedd tîm cyfeillgar a chefnogol
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Samantha Bates, Rheolwr Gwastraff Cynorthwyol Casgliadau, 01492 575337 Samantha.Bates@Conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
Work base: Conwy County wideWorking from Depots: Mochdre / Llandudno / Llanrwst
Are you looking to earn extra money on a casual basis?
We are looking for reliable, punctual, hardworking people to join our waste collection team who will help make a difference in keeping our environment clean.
You’ll be outdoors, walking our beautiful County, helping residents by collecting their recycling and waste, and you’ll be keeping fit in the process! Walking outside in nature for just 20 minutes per day is proven to boost fitness and wellbeing.
We are looking for people to work at least one day per week – typically 7am – 2.54pm. We offer this flexibility for those who have other work, study or responsibilities as our current casual crew tell us that is what they most value about their work life balance.
The Job:
• Loading recyclable and non-recyclable waste from homes and businesses
Why apply?
• No experience needed, full training, uniform and personal protection equipment provided
A friendly and supportive team environment
Manager details for informal discussion: Sam Bates, Assistant Waste Manager Collections, 01492 575337 Samantha.Bates@Conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
We’re committed to developing a diverse workforce and inclusive teams that embrace a wide range of voices, experiences, perspectives and backgrounds. Creating a workplace that is welcoming and where everyone feels they belong ensures we can deliver great services.
We welcome and encourage applicants from all backgrounds and experiences.
We are a Disability Confident Employer. If you have declared a disability in your application, we guarantee an interview if you evidence that you meet the essential criteria of the job in your application (requirements marked with an ‘E’ on the Person Specification).
We are happy to provide reasonable adjustments throughout the recruitment process (and in employment) where possible. We encourage you to request adjustments. To do this please contact the manager named above to discuss your needs and potential support. There are options to apply via different formats, please contact the HR Team on 01492 576129 to discuss how we can support you. These requests will not put you at any disadvantage.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd