Dewislen

Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc) – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ, Brynithel

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 06 Mehefin 2025
Cyflog: £12.21 yr awr
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 06 Gorffennaf 2025
Lleoliad: NP13 2GZ
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Rheolwr/Arweinyydd cylch am gyflawni’r dyltswyddau canlynol:


· Sicrhau bod plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf i bob plentyn

· Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r cylch

· Sicrhau bod trefniadau bwyd yn cael eu gweithredu’n briodol

· Sicrhau bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant

· Dilyn canllawiau hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg

· Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol

· Creu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig gan sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd

· Darparu gweithgareddau tu fewn a thu allan i hybu datblygiad corfforol ac ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd

· Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd

· Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn ôl yr angen

· Cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch ar bob amser

· Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd

· Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau

· Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.

· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd/Rheolwr a’r Dirprwy Rheolwr Talaith

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon