Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Meirionnydd (dros gyfnod mamolaeth)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 04 Mehefin 2025
Cyflog: £29,610 i £32,712 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 18 Mehefin 2025
Lleoliad: Gwynedd, Wales
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Crynodeb

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person fod yn gynghorydd cyswllt i glwstwr o ddarpariaethau a’u pwyllgorau . Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith yr holl ddarpariaethau yn yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon.

Cytundeb cyfnod penodedig o 25/08/2025 hyd at 20/07/2026.

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Ymweld a Chylchoedd Meithrin bob hanner tymor i gefnogi a chynghori a chefnogi’n ychwanegol trwy ffon, e bost a chyfarfodydd rhithiol ac wyneb i wyneb.
Ymweld a Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi unwaith y tymor.


Datblygu Darpariaethau

Adnabod cyfleoedd i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ac i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
Cydweithio ag Athrawon Ymgynghorol/ Cyswllt i gynorthwyo darpariaethau i weithredu egwyddorion y Dysgu Sylfaen, y Cwricwlwm newydd ac ymateb i ofynion Estyn
Cynghori a chefnogi darpariaethau i baratoi a mabwysiadau fframwaith CDGPC gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau.
Cydweithio gyda’r cylchoedd a phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon uchel o fewn y ddarpariaeth a gofynion AGC, Estyn, yr Awdurdodau Lleol, Dechrau’n Deg a CDGPC
Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
Annog, arwain a chynghori Cylchoedd Meithrin i ymgeisio am gynllun ansawdd Mudiad Meithrin sef Safonau Serennog Arian/Aur
Hyrwyddo cyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Cydweithio a’r cylchoedd Ti a Fi lleol i annog dilyniant i’r Cylch Meithrin ac ymlaen at addysg Gymraeg
Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd.
Annog y cylchoedd i fuddsoddi amser i ddatblygu Cylchoedd Ti a Fi i ddenu rheini at addysg Gymraeg.
Annog Cylchoedd Ti a Fi i gofrestru ar gyfer gynllun archredu ansawdd Mudiad Meithrin sef Cylch ti a Fi Serennog.


Cefnogaeth Fusnes

Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin

· Materion ariannol e.e. rhagolygon llif arian, rhifau torri’n hafal, ceisiadau grant, cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd.

· Cynlluniau busnes e.e cynnig arweiniad wrth eu datblygu

· Materion elusennol e.e gofynion SCE ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau.

· Materion rheoli AGC e.e sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau yr Arolygaeth

Rheoli Perfformiad e.e cefnogi pwyllgorau i reoli perfformiad staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch.
Bod yn bwynt cyswllt i Berson Cofrestredig/Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.


Gweithio mewn partneriaeth

Mynychu cyfarfodydd sirol megis is grwpiau CSGA, grwpiau ansawdd gan eirioli dros ein haelodau wrth gynllunio’n lleol.
Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Chynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin.
Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen
Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .


Rhannu arbenigedd

darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a thaleithiol.
eirioli a hyrwyddo darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol.
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
Mynychu cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.