Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Meirionnydd (dros gyfnod mamolaeth)
Posting date: | 04 June 2025 |
---|---|
Salary: | £29,610 to £32,712 per year, pro rata |
Hours: | Part time |
Closing date: | 18 June 2025 |
Location: | Gwynedd, Wales |
Remote working: | Hybrid - work remotely up to 5 days per week |
Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
Job type: | Temporary |
Job reference: |
Summary
Cytundeb cyfnod penodedig o 25/08/2025 hyd at 20/07/2026.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Ymweld a Chylchoedd Meithrin bob hanner tymor i gefnogi a chynghori a chefnogi’n ychwanegol trwy ffon, e bost a chyfarfodydd rhithiol ac wyneb i wyneb.
Ymweld a Meithrinfeydd Dydd a Chylchoedd Ti a Fi unwaith y tymor.
Datblygu Darpariaethau
Adnabod cyfleoedd i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ac i godi a chynyddu safon darpariaethau Mudiad Meithrin
Cydweithio ag Athrawon Ymgynghorol/ Cyswllt i gynorthwyo darpariaethau i weithredu egwyddorion y Dysgu Sylfaen, y Cwricwlwm newydd ac ymateb i ofynion Estyn
Cynghori a chefnogi darpariaethau i baratoi a mabwysiadau fframwaith CDGPC gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau.
Cydweithio gyda’r cylchoedd a phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon uchel o fewn y ddarpariaeth a gofynion AGC, Estyn, yr Awdurdodau Lleol, Dechrau’n Deg a CDGPC
Anwytho pwyllgorau ac Arweinyddion newydd yn drylwyr i gydymffurfio a gofynion deddfwriaethol a rheoleiddio.
Annog, arwain a chynghori Cylchoedd Meithrin i ymgeisio am gynllun ansawdd Mudiad Meithrin sef Safonau Serennog Arian/Aur
Hyrwyddo cyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Cydweithio a’r cylchoedd Ti a Fi lleol i annog dilyniant i’r Cylch Meithrin ac ymlaen at addysg Gymraeg
Adnabod cyfleoedd i sefydlu Cylchoedd Ti a Fi newydd.
Annog y cylchoedd i fuddsoddi amser i ddatblygu Cylchoedd Ti a Fi i ddenu rheini at addysg Gymraeg.
Annog Cylchoedd Ti a Fi i gofrestru ar gyfer gynllun archredu ansawdd Mudiad Meithrin sef Cylch ti a Fi Serennog.
Cefnogaeth Fusnes
Cynnig cefnogaeth fusnes ac arweiniad i bwyllgorau gwirfoddol ar y canlynol gan dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin
· Materion ariannol e.e. rhagolygon llif arian, rhifau torri’n hafal, ceisiadau grant, cwblhau cyfrifon a sicrhau gweithdrefnau ariannol fydd yn arwain at gynaliadwyedd.
· Cynlluniau busnes e.e cynnig arweiniad wrth eu datblygu
· Materion elusennol e.e gofynion SCE ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau.
· Materion rheoli AGC e.e sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau yr Arolygaeth
Rheoli Perfformiad e.e cefnogi pwyllgorau i reoli perfformiad staff a’r cylch i sicrhau rhediad esmwyth o fewn y cylch.
Bod yn bwynt cyswllt i Berson Cofrestredig/Unigolion cyfrifol y darpariaethau gan eu cyfeirio at y gefnogaeth a chyngor cywir â rhannu arfer da.
Gweithio mewn partneriaeth
Mynychu cyfarfodydd sirol megis is grwpiau CSGA, grwpiau ansawdd gan eirioli dros ein haelodau wrth gynllunio’n lleol.
Cydweithio gyda staff, pwyllgorau ac Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau cenedlaethol ar lawr gwlad e.e Ehangu cynllun Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant, CDGPC, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a Chynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin.
Gweithredu’n unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, digwyddiadau i deuluoedd, eisteddfodau yn ôl yr angen
Cydweithio a’r adran Farchnata i gynnal gwyliau Dewin a Doti .
Rhannu arbenigedd
darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a thaleithiol.
eirioli a hyrwyddo darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol.
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e Academi, gwasanaeth cyfieithu, marchnata.
Mynychu cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Proud member of the Disability Confident employer scheme