Local Nature Partnership Coordinator
Dyddiad hysbysebu: | 29 Mai 2025 |
---|---|
Cyflog: | £31,586 i £35,235 bob blwyddyn |
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 12 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Conwy County, Wales |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ006589 |
Crynodeb
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect profiadol a chymwys i ymuno â’r Grŵp Mannau Agored.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Ecolegydd i ddarparu Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ar draws Sir Conwy. Cyflawnir hyn drwy gydlynu a hwyluso’r cread a gwella Cyfalaf Naturiol ar draws ystâd yr Awdurdod ac yn ehangach drwy waith partneriaeth allanol.
Un o brif ddyletswyddau’r swydd yw hwyluso a chefnogi cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus i gyflawni prosiectau adfer a gwella cynefinoedd a rhywogaethau a chodi ymwybyddiaeth amgylcheddol ar draws y Sir.
Bydd y rôl yn cynnwys integreiddio amcanion Llefydd Lleol ar gyfer Natur o fewn rhwydweithiau allweddol, prosiectau a chynlluniau (megis Datganiadau Ardal, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Prosiectau Isadeiledd Gwyrdd, Prosiectau Peillio, Cynlluniau Lles) a chanfod cyfleoedd ar gyfer prosiectau i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd, rhaid i ymgeiswyr:
• Fod â chymhwyster lefel gradd mewn disgyblaeth amgylcheddol
• Bod â gwybodaeth ecoleg dda gan gynnwys gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol {Cynllun Gweithredu Adferiad Natur (Cymru); a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016}
• Gallu dangos profiad o reoli nifer o brosiectau ar y cyd yn llwyddiannus.
• Tystiolaeth o sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu effeithiol
• Bod â dealltwriaeth dda o bwysau allweddol ar fioamrywiaeth gan gynnwys newid hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol
• Gallu datblygu strategaethau partneriaeth ac ystod o brosiectau arloesol cysylltiedig, ynghyd â phrosesau monitro ac adolygu cysylltiedig
• Y gallu i gyfathrebu a thrafod yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar (gan gynnwys siarad cyhoeddus) gydag Aelodau, y cyhoedd, ysgolion, gwirfoddolwyr ac ystod eang o sefydliadau
Gan fod Conwy yn ardal ddaearyddol fawr, mae’r gallu i deithio o fewn yr ardal i fynychu apwyntiadau yn ofynnol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Kate Surry, Ecolegydd, 01492 575106, kate.surry@conwy.gov.uk,
Sophie Birchall-Rogerson, Rheolwr Ardal - Mannau Agored, 01492 574158, sophie.birchall-rogerson@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg er mwyn cydlynu a hwyluso cread a gwella Cyfalaf Naturiol ar draws ardal Awdurdod Lleol Conwy yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Work base: Coed Pella / Hybrid
We are looking for a suitably experienced and qualified Project Co-ordinator to join the Open Spaces Group.
The successful candidate will support the Ecologist in delivering the Welsh Government’s Local Places for Nature Project across Conwy County. This will be achieved through coordinating and facilitating the creation and enhancement of natural capital across the Authority’s estate and more widely through external partnership working.
One of the principal duties of this post is to facilitate and support communities, businesses and public bodies to undertake targeted habitat and species recovery and enhancement projects and raise environmental awareness across the County.
The role will involve integrating the Local Places for Nature objectives within key networks, projects and plans (such as Area Statements, Public Services Boards, Green Infrastructure Projects, pollinator projects, Well-being Plans) and identifying opportunities for projects to safeguard habitats and species.
In order to be considered for this post, candidates must:
• Be qualified to a degree level in an environmental discipline
• Possess good ecological knowledge including knowledge of relevant legislation {Nature Recovery Action Plan (Wales); and Environment (Wales) Act 2016}
• Be able to demonstrate experience of successfully managing multiple projects concurrently
• Evidence effective time management and prioritisation skills
• Have a good understanding of the key pressures on biodiversity including climate change & invasive non-native species
• Be able to develop partnership strategies and a range of related innovative projects, together with associated monitoring and review processes
• Be able to communicate and negotiate effectively in writing and verbally (including public speaking) with Members, the public, schools, volunteers and a wide range of organisations
As Conwy has large geographic area the ability to travel within the area to attend appointments is required.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion:
Kate Surry, Ecologist, 01492 575106 , kate.surry@conwy.gov.uk
Sophie Birchall-Rogerson, Area Manager – Open Spaces, 01492 574158, sophie.birchall-rogerson@conwy.gov.uk
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh in order to coordinate and facilitate the creation and enhancement of natural capital across Conwy Local Authority area is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd