Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc) Meithrinfa Garth Olwg
Dyddiad hysbysebu: | 15 Mai 2025 |
---|---|
Cyflog: | £12.21 yr awr |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 14 Mehefin 2025 |
Lleoliad: | Pontypridd, Rhondda Cynon Taff |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Dilyn arweiniad yr Arweinydd Ystafell i:
• Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf
• Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa
• Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
• Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
• Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion
• Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
• Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant
• Croesawu rhieni i’r Feithrinfa ar bob adeg
• Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
• Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd
• Arddangos gwaith y plant
• Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
• Cydweithio i weithredu gofynion Dysgu Sylfaen
• Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i’r plant o fewn y feithrinfa
• Trochi’r plant yn y Gymraeg drwy gydol y dydd.
• Disgwylir i bob aelod o staff gyfathrebu’n Gymraeg gyda’u cyd-weithwyr
• Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ar bob amser
• Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd
• Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg
• Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar
• Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa
• Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg
• Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd