Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

Cynorthwyydd Paratoi Bwyd

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Mai 2025
Cyflog: £12.21 yr awr
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 07 Mehefin 2025
Lleoliad: LL49 9NF
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Festiniog Railway Company
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Crynodeb

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yw dwy o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn ehangu ein tîm cegin yn Spooner's, ein prif lecyn arlwyo wedi'i leoli yng Ngorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog.

Rydym yn edrych am unigolyn brwdfrydig, gweithgar i ymuno â’n tîm ymroddedig o staff cegin sy’n gweithio yn Spooner’s.

Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog cychwynnol o £11.70 yr awr; dibynnu ar oedran / profiad
• Contract tymhorol i gychwyn cyn gynted â phosibl i’r 31ain o Hydref 2025
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys paratoi bwyd ar gyfer ein basgedi picnic, defnyddio cynnyrch lleol ffres, paratoi brechdanau a chinio ysgafn i ateb y galw disgwyliedig, neu archebu a chynorthwyo ein tîm o gogyddion i ddarparu ein bwydlenni yn ystod y dydd a gyda'r nos. Byddwch hefyd yn gyfrifol am dasgau cegin sylfaenol fel glanhau a golchi llestri ac efallai y bydd gofyn i chi weithio yn ein Hystafelloedd Te yng ngorsaf Tan y Bwlch o bryd i'w gilydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda angerdd am baratoi a chyflwyno bwyd syml o ansawdd da. Mae profiad blaenorol o weithio ym maes lletygarwch neu arlwyo yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn hyblyg, yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau ac yn achlysurol sifftiau nos; a byddant yn gyfforddus gyda gweithio ar eich pen eich hun a dechrau'n gynnar i baratoi'r basgedi picnic i ateb y galw. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.

Sgiliau Craidd:
• Profiad; naill ai'n broffesiynol neu mewn lleoliad domestig; paratoi a chyflwyno prydau syml
• Rhaid bod yn chwaraewr tim
• Rhaid gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Sgiliau cyfathrebu da
• Yr gallu i weithio yn lân ac yn daclus
• Mae gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a'u teithwyr; a'r ardal leol.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl i weithio yn y DU.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.