Hysbysebu eich swyddi
Defnyddiwch y Gwasanaeth Cyflogwr os ydych yn gyflogwr yn y DU ac yr hoffech hysbysebu swyddi gwag ar wefan Dod o hyd i Swydd.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i:
- ychwanegu eich cwmni
- postio hysbysebion swydd i'n cynulleidfa o geiswyr gwaith y DU
- gofyn am gyngor a chymorth recriwtio i'ch helpu i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir ar gyfer eich busnes. Darganfyddwch fwy am Wasanaethau Cyflogwyr y Ganolfan Byd Gwaith
- rheoli defnyddwyr eich cwmni
Cyn i chi ddechrau
I greu eich cyfrif cwmni, bydd angen i chi wybod y canlynol am eich cwmni:
- enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- amcangyfrif y nifer o weithwyr
- statws cofrestru Hyderus o ran Anabledd
Eisoes â chyfrif? Mewngofnodi
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os oes angen help arnoch i gofrestru neu bostio'ch swyddi gwag, cyfeiriwch at dudalen Help a chyngor cyflogwr.