Dewislen
Warning Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben ac mae'r ceisiadau wedi cau.

202604: Swyddog carchar – CEF Berwyn

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 08 Ebrill 2026
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2026
Lleoliad: LL13 9QE
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Ministry of Justice
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 16302

Crynodeb

Swyddog carchar – CEF Berwyn



CEF Berwyn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Heol y Bont i'r Gogledd, Wrecsam LL13 9QE

Cyflog cychwynnol: £35,875 (am wythnos 39 awr gan gynnwys 20% anghymdeithasol)

Dinas/Tref: Wrecsam

Rhanbarth: Cymru

Math o swydd wag: Teilyngdod



Mae’r rôl hon ddim yn gymwys ar gyfer fisa Gweithiwr Medrus newydd yn unol â’r rheolau mewnfudo cyfredol.

Gallwch ddarllen mwy am fisa Gweithiwr Medrus a’r meini prawf cymhwysedd yma.



Swydd eithriadol

Yn y gyrfa unigryw hon, byddwch yn cael y cyfle i gyflawni llawer o wahanol dasgau mewn unrhyw un diwrnod.



Yn ystod y broses recriwtio byddwch yn cael eich asesu ar:

cyfathrebu a dylanwadu

rheoli gwasanaeth o ansawdd

gwneud penderfyniadau effeithiol

gofalu



I ddod yn swyddog carchar, bydd angen i chi:

fod yn 18 oed o leiaf wrth ddechrau’r gwaith

bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil

pasio asesiad meddygol a ffitrwydd

bodloni’r safon golwg ofynnol yn y ddau lygad

am resymau diogelwch, bodloni safon briodol o glyw

Er bod tatŵau’n cael eu caniatáu, gan gynnwys y rhai sy’n weladwy, rhaid iddynt ddim bod yn dramgwyddus, gwahaniaethol, treisgar neu’n frawychus mewn unrhyw ffordd. Fel rheol, nid yw tatŵau wyneb yn dderbyniol, ac eithrio am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol.

Am resymau diogelwch, mae angen safon briodol o glyw ar bawb sy'n hyfforddi i fod yn swyddog carchar (heb ddefnyddio cymhorthion clyw).

I weithio mewn carchar diogelwch uchel (categori A) rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf.



Sut i wneud cais

Ar ôl i chi gwblhau’ch ffurflen gais gychwynnol.

Byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau prawf ar-lein, i weld a oes gennych y sgiliau sylfaenol o ran barn a rhifedd.

Os byddwch yn pasio’r prawf ar-lein, byddwn yn eich gwahodd i ganolfan asesu ar-lein (OAC).

Ar ôl cwblhau’r OAC yn llwyddiannus ac ar ôl i chi gael eich dyrannu i swydd wag, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau prawf meddygol a ffitrwydd. Bydd hyn yn cynnwys prawf golwg, prawf clyw a sgrinio iechyd sylfaenol, gan gynnwys gwiriad pwysedd gwaed.



Cyflog

Mae’r hyfforddiant cychwynnol yn wythnos 37 awr. Ar ôl hyfforddiant, gallwch ddewis gweithio 37, 39 neu 41 awr yr wythnos. Bydd eich cyflog blynyddol yn adlewyrchu eich oriau wythnosol.

37 awr yr wythnos = £33,746 y flwyddyn
39 awr yr wythnos = £35,875 y flwyddyn
41 awr yr wythnos = £38,003 y flwyddyn

Mae’r holl ffigurau cyflog a ddyfynnir yn cynnwys unrhyw lwfansau ychwanegol.

Mae’r wythnos waith safonol i swyddog carchar yn seiliedig ar batrwm shifft 39 awr yr wythnos.



Buddion

25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth)

amser talu i ffwrdd ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 1 diwrnod breintiedig ychwanegol

pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniadau cyflogwr o 28.97%

cynllun beicio i’r gwaith, benthyciadau teithio a buddion eraill

Darllenwch fwy am fuddion swyddogion carchar



Cynigion swydd: swydd wag teilyngdod

Mae hon yn swydd wag ar sail teilyngdod. Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu ar-lein, byddwch yn cael eich rhoi ar restr deilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.

Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r ganolfan asesu, bydd y carchar yn gwneud cynigion swydd i’r unigolion sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi’n dod ar gael.

Gallwch aros ar y rhestr deilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.



Rôl Gradd Cefnogaeth Weithredol

Bydd ein Canolfan Asesu Ar-lein (OAC) nid yn unig yn eich asesu yn erbyn y meini prawf allweddol i ddod yn swyddog carchar ond hefyd yn penderfynu eich addasrwydd ar gyfer rôl gradd cefnogaeth weithredol (OSG).

Os byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais i ddod yn swyddog carchar ar ôl mynychu’r OAC, efallai y cewch gynnig rôl arall fel OSG.

Gradd cefnogaeth weithredol - Weinyddiaeth Gyfiawnder



Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Weision Sifil.

Rydym yn recriwtio drwy ddeilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y nodir yng nghanllawiau recriwtio’r Comisiwn Gwasanaeth Sifil.

Os ydych yn teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion hyn, gallwch godi cwyn drwy gysylltu â Shared Services Connected Ltd: ffoniwch 0845 241 5358 (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am – 6pm) neu e-bostiwch Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com



Amrywiaeth & Chynhwysiant

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn ymrwymedig i ddenu, cadw a buddsoddi mewn doniau lle bynnag y cânt eu canfod. I ddysgu mwy, gweler Cynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil.



Cymorth addasiadau rhesymol

Ticiwch ‘ie’ pan fydd yn gofyn a ydych yn meddwl y gallech fod angen addasiad rhesymol.