Darlithydd mewn Sbaeneg (0.5)
| Dyddiad hysbysebu: | 27 Mawrth 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £13,193.00 i £25,965.00 bob blwyddyn |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | 13193 - 25965 |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 15 Ebrill 2026 |
| Lleoliad: | Abertawe, SA4 6RD |
| Cwmni: | Vacancy Filler |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | MAR20267705 |
Crynodeb
Amdanom ni:Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.Y rôl:Rhan-amser (18.5 awr yr wythnos)Parhaol£13,193 - £25,965 y flwyddynCampws Gorseinon, AbertaweCyfrifoldebau AllweddolCynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr. Bydd gofyn i chi hefyd sicrhau bod mentrau Llywodraeth Cymru e.e. Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd yn cael eu hymgorffori a'u hasesu'n effeithiol.Defnyddio offer/atebion digidol ar gyfer cyflwyno ac asesu ar-lein, gan ddefnyddio platfformau digidol sydd wedi eu cymeradwyo gan y Coleg.Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad yn unol ag amserlenni/meini prawf allanol a thargedau’r coleg.Amdanoch ChiCymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol.Cymhwyster addysgu/hyfforddi neu barodrwydd i weithio tuag at ei ennill a/neu wybodaeth o ymgorffori Sgiliau Allweddol yn y cwricwlwm perthnasol.Lefel 2 (TGAU neu gyfwerth), gradd C neu uwch mewn llythrennedd a rhifeddBuddion:46 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddynDisgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-llesAngen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau. Gwybodaeth Bellach Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad).Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad. Yr Iaith Gymraeg I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. DiogeluMae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:· Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)· Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).