Tiwtor Cymraeg Gwaith
| Dyddiad hysbysebu: | 17 Mawrth 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £34,610.00 i £39,906.00 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 31 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | Pontypridd, Rhondda Cynon Taff |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | University of South Wales |
| Math o swydd: | Cytundeb |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc, Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau Cymraeg Gwaith. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am diwtor llawn amser ar gyfer Cymraeg Gwaith i ddysgu amserlen llawn o wersi gan gynnwys 2 noson ac i ymuno â thîm o diwtoriaid talentog a brwdfrydig.
Cynhelir y dosbarthiadau ar lein ac mewn sefydliadau ar draws rhanbarth Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Penybont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd.
Disgwylir i ddeiliaid y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol a meddu ar gymhwyster dysgu.
Mae hon yn swydd llawn amser am gyfnod penodol o flwyddyn yn y lle cyntaf.
Mae'r brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws o bryd i’w gilydd ym Mhontypridd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Catherine Stephens, Pennaeth Dysgu Cymraeg Morgannwg catherine.stephens@decymru.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau.
Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni yn PDC: https://tinyurl.com/PSSynPDC
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd