Dewislen

Cynorthwyydd Domestig

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 17 Mawrth 2026
Cyflog: £12,273.00 bob blwyddyn
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: 12273 - 12273
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 14 Ebrill 2026
Lleoliad: Newtown, SY16 4HU
Cwmni: Vacancy Filler
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: MAR20266657

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Domestig dibynadwy a brwdfrydig i gefnogi ein hadran Lletygarwch o ddydd i ddydd trwy gyflawni dyletswyddau glanhau a threfnu i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i staff a myfyrwyr.Graddfa 1, Pwynt 14, £25,949 y flwyddyn pro rata. (yn cyfateb i £12,273 y flwyddyn). 17.5 awr yr wythnos (i’w gweithio yn ôl y gofyn). Parhaol, rhan-amser.Grwp Colegau NPTC - I’w leoli yng Ngholeg Y Drenewydd.Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster lefel 1 mewn Lletygarwch (neu gymhwyster cyfatebol) a phrofiad perthnasol. Byddai Tystysgrif Cymorth Cyntaf o fantais, sut bynnag darperir hyfforddiant.Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Gwneud cais am y swydd hon