Cynghorydd Gwasanaethau Pobl
| Dyddiad hysbysebu: | 02 Mawrth 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £34,434 i £36,363 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 23 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | CF72 8LX |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | South Wales Fire and Rescue Service |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | 505453 |
Crynodeb
Mae'r Cynghorydd Gwasanaethau Pobl (CGP) yn cynorthwyo darparu gwasanaethau AD o ansawdd uchel ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC). Gan weithio fel rhan o dîm amlsgiliau, mae'r CGP yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol i reolwyr a gweithwyr, gan ddarparu cyngor AD proffesiynol, cefnogi prosesau pobl, a chyfrannu at ddiwylliant sefydliadol cadarnhaol a chynhwysol.
Mae'r rôl yn cefnogi Partneriaid Busnes Gwasanaethau Pobl a'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Pobl ehangach i gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth, bodloni Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) a Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) a darparu gwybodaeth reoli gywir. Mae'r CGP hefyd yn cyfrannu at brosiectau sy'n gwella systemau, prosesau, a phrofiad cyffredinol y gweithwyr.