Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref
| Dyddiad hysbysebu: | 27 Chwefror 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £29,064 i £31,022 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 13 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | North Wales, UK |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | North Wales Fire and Rescue Service |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
GWEITHIWR CYMORTH DIOGELWCH YN Y CARTREF
Yr Adran Atal Diogelwch Tân
Cyfleoedd ar draws ardaloedd Gogledd Gwynedd/Ynys Môn a Wrecsam/Sir y Fflint.
Parhaol gydag amser llawn a rhan amser ar gael
NWFRS Gradd 05 £29,064 i £31,022 y flwyddyn
Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Cymorth Diogelwch yn y Cartref i ymuno â'n tîm Atal yn ardal y Dwyrain (Sir y Fflint a Wrecsam) a'r Gorllewin (Ynys Môn/Gogledd Gwynedd).
Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i ddarparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth i atal tanau a marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig. Gan weithio gyda chymunedau Gogledd Cymru, mae Gweithwyr Cymorth Diogelwch yn y Cartref yn darparu cyngor ac arweiniad diogelwch tân, yn ogystal ag ymyriadau diogelwch tân addas yng nghartrefi grwpiau targed a nodwyd i gyfrannu at eu hiechyd, diogelwch a lles. O fewn eu maes cyfrifoldeb, byddant hefyd yn cefnogi'n rhagweithiol y gwaith o gyflwyno gweithgareddau ymwybyddiaeth diogelwch tân ac ymgyrchoedd diogelwch.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu 'n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (i lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gyda ffordd agored a hygyrch, bydd ymgeiswyr yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cael eu cymell i helpu eraill, yn enwedig pobl agored i niwed o fewn y grŵp targed a nodwyd, i gadw'n ddiogel ac yn iach mewn ffordd barchus a chyfrinachol.
Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod gofyniad i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar achlysuron anaml ar gytundeb cydfuddiannol.
Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell a geirdaon boddhaol. Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw
12.00 hanner dydd, 13 Mawrth, 2026 gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos yn cychwyn 6 Ebrill 2026.
Bydd y dyddiad cau yn cael ei gadw'n llym ac ni fydd unrhyw eithriadau yn berthnasol.