Menu

Cyfieithydd

Job details
Posting date: 24 February 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Pro Rata £10,201 - £11,076
Hours: Part time
Closing date: 17 March 2026
Location: Mold, Flintshire, CH7 1JB
Remote working: On-site only
Company: eTeach UK Limited
Job type: Permanent
Job reference: 1533253

Apply for this job

Summary

Dymuna’r Llywodraethwyr Ffederasiwn Cwlwm benodi cyfieithydd i ddarparu gwasanaeth gyfieithu i staff a dysgwyr Ysgol Maes Garmon.Disgwylir i'r unigolyn a benodir gyfieithu adnoddau addysgol o’r Saesneg i’r Gymraeg (ac i’r cyfeiriad arall) ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7–13, gan sicrhau hygyrchedd a chysondeb ar draws pynciau.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi athrawon a staff ategol gyda chwestiynau iaith, addasu deunyddiau ar gyfer y dosbarth a’r gweithle. Byddai’n fanteisiol pe bai’r unigolyn a benodir yn gallu darparu gwasanaethau cyfieithu yn ystod cyfarfodydd y corff llywodraethu ar ôl ysgol.
Prif gyfrifoldebau
Cyfieithu adnoddau addysgu a dysgu’n gywir rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer Blwyddyn 7–13.
Sicrhau bod cyfieithiadau’n cadw at derminoleg benodol i’r pwnc ac yn briodol i’r grŵp oedran.
Darparu cefnogaeth ieithyddol i athrawon, gan gynnwys prawf ddarllen a golygu deunyddiau.
Cynorthwyo i greu adnoddau cynhwysol sy’n bodloni gofynion y cwricwlwm.
Rheoli blaenoriaethau cyfieithu i gwrdd â therfynau amser ar gyfer dosbarthiadau.
Cadw cyfrinachedd a chydymffurfio â pholisïau’r ysgol ar ddiogelu data.
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a chyfrannu at drafodaethau datblygu adnoddau.
Gweithio’n hyblyg, gan gynnwys rhywfaint o waith o bell fel y cytunir.
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol:
Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg (ysgrifenedig a llafar).
Safon gramadeg a sillafu rhagorol yn y ddwy iaith.
Dealltwriaeth o derminoleg addysgol a gofynion y cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 7–13.
Profiad o gyfieithu dogfennau neu adnoddau’n gywir ac yn sensitif.
Gallu gweithio’n annibynnol gan reoli amrywiaeth o dasgau i gwrdd â therfynau amser.
Sgiliau TG cryf (Microsoft Office yn bennaf).
Sgiliau cyfathrebu a chydweithio effeithiol i weithio gydag athrawon, staff ategol a llywodraethwyr
Ymroddiad i gyfrinachedd ac egwyddorion diogelu.
Parodrwydd i weithio mewn model hybrid.
Meini Prawf Dymunol:
Profiad blaenorol o gyfieithu adnoddau addysgol ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.
Gwybodaeth am derminoleg benodol i bynciau ar draws ystod o feysydd cwricwlwm.
Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y corff llywodraethu ar ôl ysgol.
Telerau’r swydd:
Lleoliad: Ysgol Maes Garmon a model hybrid
Oriau: 15 awr yr wythnos yn ystod amser tymor yn unig
Cyflog: Pro Rata £10,201 - £11,076Dyddiad Cau yr hysbyseb: Dydd Mercher 17.3.26Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.

Apply for this job