Dewislen

Welcome & Service Assistant Manager / Rheolwr Cynorthwyol Croeso a Gwasanaeth

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 16 Chwefror 2026
Cyflog: £26,793 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 01 Mawrth 2026
Lleoliad: Llyn Peninsula, Rhiw, Pwllheli, LL53 8AB
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: National Trust
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: IRC170600

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Fel Rheolwr Cynorthwyol Croeso a Gwasanaeth byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Rheolwr Croeso i arwain tîm angerddol o staff tymhorol. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael croeso cynnes Cymraeg a phrofiad pleserus a chofiadwy, gan rannu gwybodaeth am ein safleoedd a’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud. Byddwch yn cefnogi gyda thargedau a thyfu cefnogaeth, a sicrhau safonau uchel o gyflwyniad ar draws ein mannau croeso.

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ar draws pedwar maes parcio arfordirol ym Mhorthor, Porthdinllaen, Llanbedrog, ac Aberdaron, yn ogystal â’n canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt.

Os ydych yn berson cyfeillgar, siaradus, gyda sgiliau arwain a brwdfrydedd dros wasanaeth eithriadol, rydym yn awyddus iawn i glywed gennych chi.

Noder bod y gallu i sgwrsio'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal â thrwydded yrru ddilys yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

As a Welcome and Service Assistant Manager, you'll play a key role in supporting the Welcome Manager to lead a passionate team of seasonal staff. You'll ensure that every visitor receives a warm Welsh welcome, an enjoyable and memorable experience, while sharing information about our sites and the important work we do. You'll help to achieve growing support targets and ensure high standards of presentation across our welcome areas.

Please note that the ability to converse fluently in Welsh and English, as well as a full UK driving licence is essential for this role.

What it's like to work here
Mae Llŷn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda chyfoeth o ddiwylliant, hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o warchod dros 20 filltir o’r arfordir hwn, gan sicrhau bod harddwch a threftadaeth Llŷn yn cael eu cadw am genedlaethau.

Mae ein pedwar maes parcio arfordirol yn safleoedd sy'n cynnig mynediad hawdd i ymwelwyr i draethau hardd, Llwybr Arfordir Cymru, a thrysorau niferus yr ardal ehangach. Yn ogystal â'r meysydd parcio, mae ein canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt yn hafan groesawgar sy’n ysbrydoli ymwelwyr i grwydro Llŷn.

Fel Rheolwr Cynorthwyol Croeso a Gwasanaeth, byddwch yn atebol i’r Rheolwr Croeso ac yn gweithio fel rhan o dîm ymroddedig ar draws y lleoliadau hardd hyn. Gyda'ch gilydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad gwych, tra’n helpu i gyflawni targedau aelodaeth a chodi arian.

The Llŷn Peninsula is an area of outstanding natural beauty, rich in culture, history and wildlife. The National Trust is proud to protect over 20 miles of this coastline, ensuring that its beauty and heritage are preserved for generations to come.

Our four coastal car parks are vital hubs, offering visitors easy access to pristine beaches, the Wales Coast Path, and the many treasures of the wider area. Additionally, our visitor centre, Porth y Swnt is a welcoming gateway, inspiring visitors to explore Llŷn.

As a Welcome and Service Assistant Manager, you will report to the Welcome Manager and work as part of a dedicated team across these beautiful locations. Together, you will play a key role in ensuring that every visitor has a fantastic experience whilst helping to achieve membership and fundraising targets.

What you'll be doing
Fel Rheolwr Cynorthwyol Croeso a Gwasanaeth Cynorthwyol, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Croeso fel rhan o dîm ymroddedig ar draws Llŷn. Byddwch yn cynorthwyo gyda recriwtio ac ymsefydlu tîm Croeso a Gwasanaeth tymhorol, yn ogystal â chefnogi gyda’r gwaith rheoli parhaus i sicrhau gwasanaeth rhagorol.

Byddwch yn darparu ein hymwelwyr gyda gwasanaeth cwsmer eithriadol ac addysgiadol, gan eu paratoi am brofiad arbennig a chofiadwy am weddill y diwrnod.

Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am y dreftadaeth yn ein gofal. Byddwch yn chwarae rhan allweddol i gyrraedd targedau recriwtio aelodaeth a rheoli prosesau talu yn y meysydd parcio. Hefyd, byddwch yn sicrhau gweithrediadau dyddiol llyfn drwy ddilyn gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnal gwasanaeth cyson a chyfrannu at leihau risg ar draws y safleoedd.

Rhan o’ch cyfrifoldeb bydd sicrhau cyflwyniad o safon uchel ar draws ein safleoedd, gan gynnwys glanhau toiledau a chodi sbwriel yn rheolaidd.

Byddwch yn gyfforddus yn gweithio bron bob penwythnos a gwyliau banc.

As a Welcome and Service Assistant Manager, you'll work closely with the Welcome Manager as part of a dedicated team across Llŷn. You’ll assist with recruiting and inducting a seasonal Welcome and Service team, as well as supporting their ongoing management to ensure outstanding service.

You’ll provide exceptional all-around customer service, handle queries with ease, guide visitors to everything they need and help set them up for a memorable day.

As Europe’s largest conservation charity, we work hard to raise vital funds to care for the heritage in our trust. You'll play a key role in achieving membership recruitment targets and managing payment processes in the car parks.

You will help maintain smooth daily operations by adhering to National Trust procedures, ensuring a consistent level of service and contributing to risk reduction across our sites.

Additionally, you’ll maintain high standards of cleanliness and presentation across our sites, including cleaning toilets and conducting regular litter picks.

Who we're looking for
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych chi’n:
brofiadol ym maes gwasanaethau ymwelwyr, yn y sector twristiaeth neu dreftadaeth
yn naturiol chwilfrydig am bobl, gyda dealltwriaeth o sut i gyflawni’r safonau uchaf o wasanaeth cwsmer
gallu gweithio tuag at dargedau gwerthu, a gwerthu manteision dod yn aelod yn hyderus
trefnus a brwdfrydig
unigolyn sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd, gydag agwedd gadarnhaol
cyfforddus gyda sgiliau TG (ar draws MS Office)

Gwneud cais am y swydd hon