Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr
| Dyddiad hysbysebu: | 13 Chwefror 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Grade 4 | £26,403 - 27,694 PRO RATA |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 01 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | Torfaen, Torfaen, NP4 8JD |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | eTeach UK Limited |
| Math o swydd: | Cytundeb |
| Cyfeirnod swydd: | 1534704 |
Crynodeb
Contract: 1 flwyddyn i gychwynOriau: 27.5 - 30 awr (I’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus) (Amser tymor yn unig – 39 wythnos)Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i’n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.Mae prif gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys –Bod yn brif bwynt cyswllt i bob myfyriwr sy'n dod i swyddfa'r ysgolCynorthwyo disgyblion gydag ymholiadauYmgymryd â rôl PA i aelodau'r UDAAteb galwadau, ymholiadau gan rieni a'r cyhoeddDidoli a dosbarthu post mewnolTrefnu a phostio llythyrau allanol at rieniDiweddaru calendr yr ysgol, safleoedd gwe a chyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angenRheoli systemau rheoli gwybodaeth a chyfrifiadurol (SIMS)Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau TG eraillArgraffu, printio, sganio & ffeilio dogfennauDarparu cymorth cyntaf sylfaenol i staff a disgyblionOs oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i'r ysgol edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Nid oes disgwyl bod gennych brofiad o'r swydd hon, a bydd hyfforddiant ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.