Dewislen

Exam Invigilator – Penweddig Comprehensive School

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Chwefror 2026
Cyflog: £24,413 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 23 Chwefror 2026
Lleoliad: Aberystwyth, Ceredigion
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ106477

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Mae’r ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol i oruchwylio arholiadau allanol a mewnol yr ysgol. Gan taw swydd achlysurol yw hon telir cyflog yn ôl yr awr.

Bydd y mwyafrif o’r gwaith yn ystod tymor yr haf (Mai, Mehefin a Gorffennaf) ond gelwir am wasanaeth goruchwylwyr arholiadau ar adegau eraill o’r flwyddyn hefyd.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.

Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni naill ai drwy ffonio’r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon