Dewislen

Cyfarwyddwr Anweithredol - Cyllid

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Chwefror 2026
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 15 Mawrth 2026
Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF104NL
Cwmni: Acorn Recruitment
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: a1WNz0000041JmHMAU_1770977345

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Rydym yn recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol (Cyllid) ar gyfer Partneriaeth Actif Canolbarth y De.

Mae PACD yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant, dan fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth graidd y strwythur hwn mae Bwrdd Cyfarwyddwyr medrus, cynhwysol ac amrywiol a fydd yn gweithio gyda'n partneriaid er mwyn llywio a gweithredu ein cyfeiriad strategol.

Manylion Allweddol

  • Yr ymrwymiad amser a amcangyfrifir ar hyn o bryd yw 0.5 - 1.0 diwrnod y mis.
  • Amlder cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd wyneb yn wyneb ac mae opsiwn i gael mynediad o bell. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob dau fis ac fel arfer byddant yn para am 2 awr.
  • Cyfnod: Y cyfnod yn y swydd yw 3 blynedd. Ni chaiff unrhyw Gyfarwyddwr Anweithredol wasanaethu am fwy na dau gyfnod olynol o 3 blynedd yn y swydd.
  • Cydnabyddiaeth: Gwirfoddol. Telir costau teithio a chynhaliaeth ar ein cyfraddau safonol yn unol â'n Polisi Teithio a Chynhaliaeth.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Darparu arweinyddiaeth strategol effeithlon ac effeithiol i Bartneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD).
  • Cynnal a gweithio tuag at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau, ac amcanion PACD a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i weithio tuag at y rhain.
  • Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a llywodraethol perthnasol.
  • Hybu dulliau darbodus ac effeithiol o reoli adnoddau'r sefydliad (ariannol a dynol).
  • Sicrhau bod strategaethau a pholisïau yn eu lle a fydd yn cefnogi amcanion PACD.
  • Hyrwyddo gwaith PACD a gweithredu fel llefarydd i PACD os bydd angen.
  • Darparu cyfeiriad ariannol strategol er mwyn cynorthwyo PACD i gyflawni ei amcanion strategol.
  • Darparu cyfeiriad strategol er mwyn sicrhau bod PACD yn gadarn o safbwynt ariannol ac yn gynaliadwy.
  • Sicrhau bod PACD yn cydymffurfio'n llwyr ag unrhyw rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol.
  • Y gallu i weithredu â phroffesiynoldeb a gonestrwydd.

Gofynion Hanfodol

  • Ymrwymiad i degwch, cynhwysiant, ac amrywiaeth.
  • Y gallu i feddwl yn strategol.
  • Profiad o arweinyddiaeth ariannol yn dangos cyfrifoldeb am arwain, llywio neu gyfrannu at strategaeth ariannol, stiwardiaeth a llywodraethiant y sefydliad.
  • Profiad o sganio'r gorwel ariannol a chynllunio hirdymor er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau.
  • Y gallu i ddarparu mewnwelediad ariannol er mwyn llywio penderfyniadau buddsoddi a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy a chreu gwerth.
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth ariannol yn glir ac yn gryno i randdeiliaid anariannol.


Dewch o hyd i'r pecyn ymgeisydd llawn ar ein gwefan

Suit i ymgeisio

Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

  1. CV wedi'i ddiweddaru
  2. Datganiad ategol (dim mwy nag un dudalen) yn amlinellu pam rydych yn dymuno ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych yn ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at fanyleb y person.

Dyddiad Cau: Hanner nos 11 Mawrth

Dyddiad Cyfweld: 1 Ebrill 2026

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon