Golchfa Pot
| Dyddiad hysbysebu: | 12 Chwefror 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 14 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | LL49 9NF |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Festiniog Railway Company |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Rydym yn edrcyh am unigolion brwdfrydig, gweithgar i ymuno â’n tîm ymroddedig o staff gweithio yn Spooner’s.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• • Contract tymhorol rhwng Mis Mawrth 2026 i’r 1af o Tachwedd 2026, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2027
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd; patrwm sifftiau penwythnosau a gwyliau ar gael penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys mynd â bwyd allan o'r gegin, clirio byrddau, llwytho'r peiriant golchi llestri a golchi llestri. Cyfleoedd i symud ymlaen i ddyletswyddau cegin sylfaenol, gan gynorthwyo'r cogyddion i baratoi prydau ffres o'n bwydlenni. Byddai profiad o weithio mewn caffi neu fwyty o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Swydd ddelfrydol i bobl sydd newydd adael yr ysgol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd prysur a chyflym. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd.
Sgiliau Craidd:
• Profiad mewn rôl Blaen Tŷ
• Chwaraewr tim
• Sgiliau cyfathrebu da
• Yr gallu i weithio yn lân ac yn daclus
• Mae gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Byddai gwybodaeth am am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ac am Borthmadog a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod dros yr oedran gadael ysgol a hefo’r hawl presennol i weithio yn y DU.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd