Glanhawr Cerbydau
| Dyddiad hysbysebu: | 23 Ionawr 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 22 Chwefror 2026 |
| Lleoliad: | LL54 5UP |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Festiniog Railway Company |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: | Dinas |
Crynodeb
Rydym yn chwilio am lanhawr cerbydau i weithio allan o'n depo yn Ninas i sicrhau cyflwyniad ardderchog ein cerbydau ar Reilffordd Eryri.
Gallwn gynning i chi:
• £12.71 yr awr ar gyfer ymgeiswyr 21 oed ac drosodd (Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran yn berthnasol)
• Cytundeb tymhorol o Ddydd Sadwrn 28ain o Fawrth 2026 tan Ddydd Gwener 30fed o Hydref 2026
• Rhan amser (hyd at 20 awr yr wythnos)
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl , gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopao a chaffis
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn glanhau cerbydau yn fewnol ac yn allanol. Lleolir y swydd hon yn Dinas, Llanwnda, tua Caernarfon, fodd bynnag efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau eraill o bryd i'w gilydd. Rhaid eich bod yn gallu gweithio'n lân ac yn daclus; yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o lanhau masnachol, ond mae llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd i weithio'n galed yn angenrheidiol gan y gellir darparu hyfforddiant llawn.
Sgiliau Craidd:
• Yn gallu darparu lefelau glendid rhagorol
• Bydd sgiliau cyfathrebu da a thueddiad siriol yn hanfodol
• Gallu gweithio ar eich menter eich hun neu yn ôl y cyfarwyddyd
• Gallu gweithio ar ben eich hun neu fel rhan o dîm bach
• Rhaid bod yn fodlon i weithio tu allan mewn pob tywydd
• Rhaid bod yn brydlon ac yn ddibynadwy bob amser
• Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantaisfel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a’u teithwyr, a’r ardal leol.
Dylai ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos. Gall yr oriau fod yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y prynhawn, i weddu i'r ymgeisydd. Bydd y swydd hon yn gofyn i chi weithio ar eich pen eich hun. Bydd gofyn i ymgeiswyr weithio mewn lleoliadau nad ydynt yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus felly mae mynediad at drafnidiaeth breifat a thrwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon.
Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod yn 18 oed neu'n hŷn a bod â'r hawl i weithio yn y DU.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd