Dewislen

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 21 Ionawr 2026
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) - £21,015 - £23,540 y flwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 04 Chwefror 2026
Lleoliad: Neath, Neath Port Talbot, SA11 3AL
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 1530587

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos. Mae’r swydd yma am 32.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Gwneud cais am y swydd hon