Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Gaerfyrddin
| Dyddiad hysbysebu: | 21 Ionawr 2026 |
|---|---|
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 02 Chwefror 2026 |
| Lleoliad: | Sir Gaerfyrddin |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 5 ddiwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
• Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro
• Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
• Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
• Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.
• Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
• Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
• Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
• Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
• Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
• Cydweithio â’r Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
• Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
• Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
• Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
• Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd