Menu

Prif Swyddog Cyllid - Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Job details
Posting date: 15 January 2026
Salary: £94,890 to £101,130 per year
Hours: Full time
Closing date: 26 January 2026
Location: SA31 2PD
Remote working: Hybrid - work remotely up to 3 days per week
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh)
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Hyblyg
Gradd
N
Cyflog
£94,890 - £101,130
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Tymor Sefydlog
Rhoi Nifer o Fisoedd (Misoedd)
24
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
4 Chwefror 2026
Dyddiad cau
26/01/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Prif Swyddog Cyllid, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Cyflog: £94,890 - £101,130 y flwyddyn; mae’r swydd ar gael yn llawn amser (37 awr yr wythnos) – croesawir ceisiadau ar gyfer amser rhan-amser. Nodwch y bydd yr cyflog yn gyfranedig os caiff eich penodi i’r swydd ar sail rhan-amser.

Wedi’i leoli yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Pencadlys yr Heddlu Caerfyrddin. Mae gweithio o adref hefyd yn cael ei gefnogi.

Mae'r apwyntiad ar gyfer tymor penodedig o 2 flynedd.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n chwilio am unigolyn o safon uchel i ddod yn Brif Swyddog Cyllid iddo. Bydd y penodai’n chwarae rôl allweddol o ran ei gynghori a’i gefnogi. Y brif swyddogaeth yw darparu’r CHTh â strategaeth ariannol gadarn, a goruchwylio cyllideb y CHTh o ddydd i ddydd. Byddwch chi’n ymuno â thîm proffesiynol bychan sy’n darparu’r CHTh a’i Ddirprwy, ag amrediad o wasanaethau cynnal o safon uchel sy’n cyd-fynd â chynllunio strategaethau ac adnoddau, gweithio mewn partneriaeth, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau, rheoli ymgysylltu a gwybodaeth, a chraffu, gwerthuso a pherfformiad. Byddwch hefyd yn sicrhau craffu cyllid effeithiol o holl gweithgareddau’r llu yn ogystal a gwasanaethau a gomisiynwyd, a byddwch yn sicrhau cyswllt effeithiol o ran cyllid â partneriaid allweddol yn lleol a chenedlaethol, a Phanel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Byddwch chi’n gyfrifol am weinyddiaeth materion ariannol y Comisiynydd ac yn meddu ar gymhwyster proffesiynol (h.y. CCAB) ac â phrofiad priodol ar lefel uwch reolwr. Fel y Prif Swyddog Cyllid statudol (Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 A1 ac Atodlen 1) eich rôl chi fydd sicrhau rheolaeth a chywirdeb ariannol o’r safon uchaf. Mae hanes wedi’i brofi mewn craffu a rheolaeth ariannol, ynghyd â hanes o weithredu syniadau drwy ymagwedd arloesol ond cyllidol gadarn tuag at gyflenwi ariannol, yn hanfodol.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych y sgiliau a'r angerdd ar gyfer y rôl hon, cliciwch y ffeil atodi isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r rôl i chi, llwythwch eich CV a chyflawnwch ddatganiad personol yn ymdrin â'r prif gofynion yn y proffil rôl.

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Am ragor o wybodaeth neu ar gyfer trafodaeth gyfrinachol am y rôl, cysylltwch â Carys Morgans ar carys.morgans@dyfed-powys.police.uk

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael fetio diogelwch estynedig a gwrandawiad cadarnhau gyda'r Bwyllgor Heddlu a Throsedd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy'r llwyfan ar-lein. Gofynnir i chi lwytho CV a chwblhau datganiad personol sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a osodwyd yn y proffil rôl. Os byddwch ar y rhestr fer, gofynnir i chi fynychu cyfweliad.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:55 ar Ddydd Llun 26 Ionawr 2026. Cynhelir cyfweliadau ar 4 Chwefror 2026.



Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Apply for this job