Dewislen

Casual Food & Beverage Assistant

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 15 Ionawr 2026
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 29 Ionawr 2026
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ006980

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Venue Cymru

Venue Cymru yw’r ganolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf yn y rhanbarth, ac mae ganddi theatr sy'n eistedd 1,500, arena â lle i 2,500 ac ystod lawn o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau amrywiol, o Sioeau’r West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac yn croesawu cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel ledled y flwyddyn.

Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol ym mhob man blaen tŷ; yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau’n cynnwys paratoi a chlirio gwahanol fannau ar gyfer cyfarfodydd neu gynadleddau a gweithio tu ôl i’r bar, fodd bynnag, y brif ardal waith fydd gweini yn y bwyty.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl a chyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach.

I sicrhau darpariaeth ddwyieithog i’n cwsmeriaid, mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg i gyflawni anghenion y rôl.

Bydd yr oriau gweithio ar sail ad hoc, ac o bosibl ar fyr rybudd, a bydd yn cynnwys gweithio yn ystod y dydd, nos, penwythnos a Gŵyl y Banc.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Jodi Walker, Rheolwr Cynadleddau a’r Bariau, 01492 879771, Jodi.walker@veneucymru.co.uk
Carys Coathup, Rheolwr y Bwyty a’r Caffi, Carys.coathup@venuecymru.co.uk


Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Work base: Venue Cymru

Venue Cymru is the regions busiest arts and events centre, comprising of a 1,500 seat theatre, 2,500 capacity arena and a full range of high quality conference and event spaces. We present a diverse arts programme, from West End Shows to our own Young Creatives performances, and host high profile conferences and events throughout the year.

You will work as part of a friendly and supportive team in all front of house areas, carrying out a range of duties including setting-up and clearing work areas for meetings or conferences and serving behind the bars however the main working area will be waiting-on in the restaurant.

You will receive full training for the role and an opportunity to develop your skills further.

To be able to deliver a bi-lingual service to our customers, the ability to communicate in English is essential and the ability to conduct a simple conversation in Welsh is desirable for this post. We can support you in developing your Welsh skills to be able to fulfil the needs of this role.

The hours of work will be on an ad hoc basis and possibly at short notice and will include daytime, evening, weekend and Bank Holiday working.

Manager details for informal discussion:

Jodi Walker, Conference & Bars Manager, 01492 879771, Jodi.walker@veneucymru.co.uk
Carys Coathup, Restaurant and Café Manager, Carys.coathup@venuecymru.co.uk


Welsh Language Skills: The ability to conduct a simple conversation in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.


Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon